Ffurfiwyd Matrix Feminist Design Co-Operative yn Llundain ym 1981.[1] Roedd yn un o'r sefydliadau pensaernïol cyntaf ledled y byd i ddod ag agwedd ffeministaidd at bensaernïaeth a dyluniad yr amgylchedd adeiledig ac i herio systemau gofodol patriarchaidd.[2][3][4][5][6][7] Dilynodd Matrix yr amcanion hyn drwy brosiectau adeiledig, dadansoddiad damcaniaethol, ymchwil a gomisiynwyd a chyhoeddiadau, gan gynnwys y llyfr Making Space: Women and the Man-made Environment.[8] Mae'r llyfr yn archwilio'r berthnas rhwng rhyw a phensaernïaeth, gan adeiladu ar y gwaith a ddaeth i'r amlwg ar y pryd gan haneswyr a daearyddwyr ffeministaidd yn y DU ac UDA, gan gynnwys Doreen Massey, Linda McDowell, Susana Torre a Dolores Hayden .
Blynyddoedd Cynnar
Ffurfiodd Matrix fel cangen ffeministaidd o'r Mudiad Pensaernïaeth Newydd (MPN) yn Llundain.[9][10] Ar ddiwedd y 70au dechreuodd grŵp o ferched a oedd yn ymwneud â MPN gyfarfod ar wahân i drafod safbwyntiau ffeministaidd a materion penodol sy'n wynebu menywod yn yr amgylchedd adeiledig. Arweiniodd hyn at ffurfio'r Feminist Design Collective (1978-80) a ymrannodd wedyn yn Matrix a Mitra.[11][12] Roedd Mitra yn canolbwyntio ar alluogi mwy o fenywod i ymuno â'r proffesiwn pensaernïol; tra bod Matrix yn canolbwyntio ar newid arferion presennol.
Ymhlith y grwpiau cysylltiedig mae'r Women in Manual Trades (WAMT), elusen arloesol sy'n cefnogi menywod ym maes adeiladu, a'r Women's Design Service, a sefydlwyd ym 1985. [13][14]
Roedd gan Matrix lawer o aelodau a oedd yn cymryd rhan ar draws ystod o brosiectau a grwpiau cysylltiedig rhwng 1978 a 1994. Roedd y rhain yn cynnwys cynhadledd Women and Space (1979), arddangosfa Home Truths (1980), grŵp llyfrau Matrix (1980-84), grŵp cymorth Matrix (1980-84), a'r practis pensaernïol (1980–1994).[15] Ymhlith yr aelodau cychwynnol allweddol roedd Frances Bradshaw, Susan Francis, Barbara McFarlane, Anne Thorne, Julia Dwyer, a Jos Boys . Roedd Benedicte Foo hefyd yn debygol o fod yn aelod cynnar. Roedd rhai o'r aelodau sefydlol yn byw mewn sgwatiau neu dai oes-fer tra roedd y grŵp yn cychwyn, a olygai fod costau byw yn fach iawn a gallai egni gael ei gyfeirio at waith y cyd. [16]
Practis pensaernïol
Roedd cwmni dylunio cydweithredol Matrix Feminist Design Cooperative yn bractis pensaernïol amlhiloll dan arweiniad menywod. Wedi'i sefydlu fel cwmni cydweithredol y gweithwyr, fe'i rhedwyd gan ddefnyddio dull rheoli an-hierarchaidd, gyda phawb yn cael eu talu ar yr un raddfa.[17][18]
Roedd y practis yn arbenigo mewn ffyrdd cydweithredol o weithio gyda phobl, grwpiau a sefydliadau a oedd yn draddodiadol wedi'u heithrio o brosesau dylunio pensaernïol.[19] Roedd y math o brosiectau a ymgymerwyd gan y practis hefyd yn ymestyn y tu hwnt i'r ystod o wasanaethau pensaernïol arferol, gan gynnwys canllawiau dylunio a chymorth hyfforddiant. Ynghyd â sefydliadau pensaernïol eraill ar y pryd ledled y DU, darparodd Matrix 'gymorth technegol' i grwpiau cymunedol a grwpiau menywod. Nod Canolfannau Cymorth Technegol Cymunedol oedd darparu gwasanaethau cymorth am ddim neu wedi'u hariannu mewn ardal megis ym maes adeiladu, sut i sicrhau cyllid, creu sefydliadau cymdogaeth a phrosiectau adeiladu, a sut i ymgyrchu dros newid.[20]
Roedd y dulliau ar gyfer gweithio gyda chleientiaid yn deillio o ymrwymiadau sefydlu Matrix i gynnwys menywod wrth ddylunio a chynhyrchu adeiladau.[21] Defnyddiodd menywod o'r practis fodelau ac ymweliadau ag adeiladu i rymuso eu cleientiaid i rannu wrth wneud penderfyniadau dylunio. [22][23]
Roedd y Cooperative hefyd yn darparu cyrsiau ar arlunio technegol ar gyfer menywod dan hyfforddiant ym maes adeiladu, ar y broses adeiladu ar gyfer gweithwyr a grwpiau cleientiaid, ac ar gyfraith adeiladu, gan fwrw strwythurau cyffredinol ac ym myd adeiladu ar gyfer menywod a oedd yn gweithio ym maes adeiladu.[24]
Datblygwyd cwrs ar luniadu technegol a ddechreuodd fel offeryn ymgynghori ar gyfer Canolfan Blant Dalston (Canolfan Gymunedol Plant Bathhouse erbyn hyn) ymhellach i'w ddefnyddio ar gynlluniau hyfforddi adeiladwyr benywaidd, yn enwedig yn Women's Education in Building (WEB), grŵp sy'n cyflwyno prosiectau ar ar ran Cynghorau Dysgu a Sgiliau yng Ngorllewin a Chanol Llundain . Fe wnaeth peth o'r gwaith hwn helpu i ddatblygu cwrs mynediad Menywod mewn Pensaernïaeth ac Adeiladu ym Mholytechnig Gogledd Llundain (Prifysgol Gogledd Llundain yn ddiweddarach, yna Prifysgol Fetropolitan Llundain) a sefydlwyd gan Yvonne Dean gyda llawer o fenywod o Matrix yn cymryd rhan fel tiwtoriaid, a gyda chyd-sylfaenydd Matrix, Susan Francis, fel arweinydd cwrs am nifer o flynyddoedd. [25]
Blynyddoedd Diweddarach
Wrth i'r aelodau sylfaenol adael, cymerodd cenhedlaeth newydd yr awenau. Gyda hinsawdd wleidyddol ac economaidd newidiol ( Margaret Thatcher yn dod yn brif weinidog Ceidwadol 1979-1990) roedd llai o gyllid cenedlaethol ar gyfer prosiectau adeiladu grwpiau cymunedol ar gael. Roedd capio ardrethi cyffredinol, er enghraifft, a gyflwynwyd ym 1991, yn effeithio ar y swm y gallai cyngor lleol ei roi mewn i brosiect, a oedd yn golygu fwyfwy bod sefydliadau mwy fel cymdeithasau tai yn dod yn gleient, gan gyfyngu mynediad y practis at ddefnyddwyr go iawn yn aml. Er bod Cyngor Llundain Fwyaf (GLC) o dan arweinyddiaeth Llafur Ken Livingstone (1981 - 1986) yn cefnogi llawer o brosiectau egalitaraidd - ac yn darparu cyllid hanfodol i grwpiau yn Llundain - daeth y weinyddiaeth dan ymosodiad cynyddol, yn dilyn ail dymor Thatcher o 1983, ac fe’i diddymwyd o’r diwedd gan y llywodraeth ym 1986. Yn yr amgylchiadau cynyddol anodd hyn, parhaodd Matrix i ddatblygu adeiladau menywod pwysig; ond yn y pen draw ni allai oroesi yn economaidd, gan gau ym 1994.
Roedd y canlynol yn aelodau o Matrix:
Jannith Wong, Susan Walker (grŵp llyfrau), Anne Thorne, Cath Taylor, Marion Roberts (grŵp llyfrau), Suzy Nelson, Kathleen Morrison, Sheelagh McManus, Barbara MacFarlane, Pippa Mansel, Vicki Swinburne, Gozi Wamuo, Connie Mansueto, Mo Hildenbrand, Claire Herniman, Anke Lewandoski, Janie Grote, Ann de Graft-Johnson, Benedicte Foo (grŵp llyfrau), Raechel Ferguson, Susan Francis, Julia Dwyer, Anne Dutton, Jane Darke (grŵp llyfrau), Fran Bradshaw, Jos Boys a Kate Baker. Roedd menywod eraill yn gweithio yn Matrix fel hyfforddeion ond ni ddaethat yn aelodau.
Gwaith adeiledig
Ymhlith y prosiectau adeiledig mae:
1993: Gweithdy Hyfforddi Pier, Woolwich
1992: Lloches Merched Essex
1991: Al-Hasaniya, Canolfan Merched Moroco, Trellick Tower, Gorllewin Llundain
1990au: Little Crackle Nursey ar gyfer Sefydliad Eglwys y Drindod Sanctaidd, Hackney
1988-91: Grosvenor Terrace Housing, Southwarkː tai newydd yn cynnwys 18 o fflatiau byw'n annibynnol ar gyfer pobl sengl
1987-88: Pluto Lesbian and Gay Housing Co-operative, Islington: addasiad tai
1986-88: Jumoke Training Nursery, Southwark Llundain [26]
1984-87: Canolfan Adnoddau Addysgol Jagonari, Tower Hamlets: adeilad newydd ar gyfer sefydliad menywod Asiaidd gan gynnwys crèche a chegin fawr.
1984-85: Canolfan Merched Hackney: addasiad siop
1984-85: Canolfan Blant Dalston, Hackney: addasu baddonau segur
Mae'n debyg bod Matrix yn fwyaf adnabyddus am Ganolfan Adnoddau Addysgol Jagonari, prosiect ar gyfer merched o gymuned Bangladeshaidd i raddau helaeth yn Whitechapel, Llundain.[27][28][29] Gwnaed cais aflwyddiannus i restru'r Ganolfan yn 2018.
Roedd Matrix yn aelod o Gymdeithas y Canolfannau Cymorth Technegol Cymunedol a sicrhaoedd arian gan Gyngor Llundain Fwyaf i ddarparu cyngor technegol. Cefnogodd CLlF dros 40 o sefydliadau gwirfoddol a oedd o fudd i fenywod ddatblygu eu hadeiladau. Ymhlith y sefydliadau cleientiaid ar gyfer astudiaethau dichonoldeb a/neu ar gyfer prosiectau na aeth ymlaen roedd Canolfan Merched Du Brixton, Prosiect Calthorpe, Canolfan Merched Bermondsey, Canolfan Merched Asiaidd Hackney, Maxilla and Defoe Nurseries, Canolfan Merched Affricanaidd Lambeth, Canolfan Hyfforddi/Addysg Merched Haringey a Charterhouse Women's Project,[30][31] Walworth City Farm, Cymdeithas Tai LABO, April Housing Co-operative, meithrinfeydd gweithle ar gyfer Bwrdeistref Waltham Forest Llundain, Llyfrgell y Merched Westminster, meithrinfa a chanolfan gofal dydd Eglwys Sancteiddrwydd Wesleaidd Leytonstone, gwelliannau i fynediad at Kingsley Hall, Lloches Merched Tsieineaidd Gorllewin Llundain,SOLON Housing Association, Network Housing Association, tai, meithrinfa a canolfan hyfforddi Lingham Street, Shepherd’s Bush Housing Association and Sanctuary Housing Association.
Cyhoeddiadau
Cynhyrchodd Matrix ystod o gyhoeddiadau, gan gynnwys y llyfr Making Space: Women and the Man Made Environment (Llundain: Pluto Press, 1984) a dau bamffled a ariannwyd gan Bwyllgor Merched Cyngor Llundain Fwyaf A Job Designing Buildings: For Women Interested in Architecture and Buildings (Llundain: Matrix Feminist Design Co-operative, 1986) ac Building for Childcare: Making Better Buildings for the Under-5s (Llundain: Matrix Feminist Design Co-operative, 1986).
Yn 1993, buont yn cydweithio â phenseiri Penoyre & Prasad, Elsie Owusu Architects ac Audley English Associates i gynhyrchu Accommodating Diversity, llyfryn ar ddylunio tai ar gyfer grwpiau lleiafrifoedd ethnig, diwylliannol a chrefyddol.
Yn enwedig yn y blynyddoedd diweddarach cyhoeddodd a rhoddodd aelodau Matrix gyflwyniadau ar wahaniaethu ar sail hil a rhyw yn y proffesiwn; gan gynnwys Women Architects, llyfryn ymchwil yn y DU a arienwyd gan Gyngor Celfyddydau'r DU (1996); Building = Equality, a Working Paper promoting equality of opportunity for black professionals within construction industry (1996); Black Women in Architecture from a UK Perspective (Papur a gyflwynwyd i'r Gynhadledd Ryngwladol ar Ryw a Threfoli, a noddwyd gan y Cenhedloedd Unedig yn Kenya (1994), a Where Are They? Black Women: Architecture and the Built Environment, a gyhoeddwyd yn ISSUE (1993). [32]
Effaith
Roedd matrics yn rhan o fudiad ffeministaidd rhyngwladol ail don llawer mwy yn yr 1980au a'r 90au a ymgyrchodd i gynyddu nifer y menywod a oedd yn ymuno â'r proffesiwn pensaernïol, i herio arferion dylunio confensiynol ac i alluogi menywod i ddylanwadu ar ddyluniad gofod adeiledig. Gwnaethant gyfrannu at y ffilm arloesol Paradise Circus: Women and the City a ddangoswyd ar Channel 4 ym 1988, a gyfarwyddwyd gan Heather Powell ar gyfer y Birmingham Film and Video Workshop[33], ac at People Ordinary: Why Women Become Feminists[34] yn 1990 (hefyd ar Channel 4, gyda chyhoeddiad cysylltiedig). Arweiniodd Matrix lawer o ddigwyddiadau'r cyfnod a chymerodd ran ynddynt, gan gynnwys 'Women and Space' yn y Gymdeithas Bensaernïol ym 1979, 'Women's Realm' (Feminist Architects’ Network, Polytechnig Gogledd Llundain 1987) ac Alterities, cynhadledd ryngwladol fawr ym Mharis ar ffeministiaeth a pensaernïaeth ym 1999.[35]
Mae arddangosfeydd o'u gwaith yn cynnwys:
Diaspora: Black Architects and International Architecture 1970 – 1990 Exhibition, Chicago 1993 [36]
Desiring Practices: Architecture, Gender and the Interdisciplinary. Arddangosfa RIBA ym 1995 (wedi'i churadu gan Sarah Wigglesworth)[37]
Drawing on Diversity: women, architecture and practice. Yn Oriel Heinz RIBA, 1997
AA XX 100 Women in Architecture 1917-2017, yn 2017, gyda chyhoeddiad cysylltiedig wedi'i olygu gan Lynne Walker ac Elizabeth Darling[38]
Still I Rise: feminisms, gender, resistance yn Nottingham Contemporary, [39]
Making Space: Housing Feminism and Urban Change yn Guest Projects London, 2019 [42]
Etifeddiaeth
Mae Matrics wedi cael effaith barhaus ar ddulliau ffeministaidd o ddylunio a methodolegau dylunio cyfranogol, ac mae'n rhagflaenydd pwysig i grwpiau a sefydliadau ffeministaidd diweddarach.[43][44][45][46][47] Mae cydnabyddiaeth yn cynyddu, ac mae golygyddion Women and the Making of Built Space in England, 1870-1950 yn disgrifio Making Space fel “hynod bwysig ond heb ei werthfawrogi.” [48]
Mae unigolion o'r Colletive a rhai a gafodd eu dylanwadu gan Matrics neu sy'n gysylltiedig ag ef, wedi parhau i weithio gydag eraill ym maes ffeministiaeth, rhyw, hil, anabledd, cydraddoldeb a phensaernïaeth trwy gydol eu gyrfaoedd, gan gynnwys ymarfer, y byd academaidd a thrwy lwybrau eraill.
Mae rhai o gyn-aelodau Matrix wedi datblygu practisau gofodol ffeministaidd megis drwy Taking Place[49][50][51][52] a ffurfiwyd gan Jos Boys, Julia Dwyer, (a oedd yn aelodau Matrix) ynghyd â Sue Ridge, Jane Rendell, Doina Petrescu, Katie Lloyd Thomas, Brigid McLeer, Helen Stratford, Miche Fabre Lewin, Angie Pascoe a Teresa Hoskyns. Datblygwyd practis gofodol hefyd gan Julia Dwyer a phartneriaeth Sue Ridge.[53] Mae Ann de Graft-Johnson yn uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Gorllewin Lloegr, Bryste, ac mae'n parhau i fod yn ymgyrchydd blaenllaw dros gydraddoldeb gan gynnwys hil, rhyw, diwylliant, rhyngblethedd ac anabledd. Mae Jos Boys wedi gweithio'n helaeth ar anabledd a phensaernïaeth.[54] Mae eraill, fodd bynnag, wedi gadael pensaernïaeth yn gyfan gwbl, yn aml wedi ei blino'n llwyr o ganlyniad i ymdrechion i ymladd dros gydraddoldeb.
Atgyfnerthwyd effaith y Feminist Design Collective yn 2019 a 2020 pan enwebwyd Matrix ar gyfer Gwobr Medal Aur RIBA gan Harriet Harriss yn dilyn ymgyrch gan y grŵp Part W.[55][56] Yn 2020, derbyniodd prosiect Archif Pensaernïaeth Ffeministaidd Agored Matrix arian hadau gan Gronfa Arloesedd Bartlett Coleg Prifysgol Llundain i ddatblygu adnodd ar-lein.[57][58] Gellir gweld y rhestr lawn o aelodau Matrix yno, yn ogystal â diweddariadau parhaus o'r gwaith, arteffactau cysylltiedig a straeon.
Cyfeiriadau
↑Grote, Janie (1992). "Matrix: A Radical Approach to Architecture". Journal of Architectural and Planning Research9: 158–186.
↑Burns, Karen (2017). "Feminist Theory and Praxis,1991 -2003: questions from the archive". In Frichot, Hélène; Gabrielsson, Catharina; Runting, Helen (gol.). Architecture and feminisms : ecologies, economies, technologies. Milton Park, Abingdon, Oxon: Routledge. ISBN978-0-203-72971-7. OCLC1011497257.
↑Morton, Patricia (2002). "The Social and the Poetic: Feminist Practices in Architecture, 1970–2000". In Jones, Amelia (gol.). The feminism and visual culture reader (arg. Second). London. tt. 287–279. ISBN978-0-415-54369-9. OCLC435731525.
↑Making space : women and the man-made environment. Matrix (Organization). London: Pluto Press. 1985. ISBN0-86104-601-3. OCLC13859003.CS1 maint: others (link)
↑Grote, Janie (1992). "Matrix: A Radical Approach to Architecture". Journal of Architectural and Planning Research9: 158–186.
↑Garland, Annette (8 July 1983). "Co-operating for Change". Building Design.
↑Dubeissy, Rana (2018). "Gender in Architecture: A Feminist Critique on Practice and Education". In Serazin, Helena; Franchini, Caterina; Garda, Emilia (gol.). Women's Creativity Since the Modern Movement (1918-2018). Ljubljana: ZRC SAZU. tt. 108–115. ISBN978-961-05-0106-0.
↑Dwyer, Julia (2012). "Inscription as a Collective Practice; Taking Place and the Other Side of Waiting". In Edquist, Harriet; Vaughan, L. (gol.). The Design Collective: an Approach to Practice. Newcastle: Cambridge Scholars Publishing. tt. 35–53.
↑Burns, Karen (2017). "Feminist Theory and Praxis,1991 -2003: questions from the archive". In Frichot, Hélène; Gabrielsson, Catharina; Runting, Helen (gol.). Architecture and feminisms : ecologies, economies, technologies. Milton Park, Abingdon, Oxon: Routledge. ISBN978-0-203-72971-7. OCLC1011497257.