Dawnswraig a phutain Iseldiraidd oedd Margaretha Geertruida MacLeod (ganed Margaretha Geertruida Zelle; 7 Awst 1876 – 15 Hydref 1917), a berfformiodd dan yr enw Mata Hari, a gyhuddwyd o fod yn ysbïwraig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf.[1]
Ganed Margaretha Zelle yn Ljouwert, yn ferch i werthwr hetiau cefnog. Mynychodd ysgol athrawon yn Leiden. Yn 18 oed, ym 1895, priododd Margaretha â'r Capten Rudolf MacLeod, hen oferwr o dras Albanaidd a gomisiynwyd gan Fyddin Frenhinol India'r Iseldiroedd. Bu MacLeod mewn dyled fawr o ganlyniad i'w gamblo, ac o'r herwydd trigasant yn Jawa a Sumatera yn India'r Iseldiroedd o 1897 i 1902. Priodas anhapus ydoedd, ac wedi iddynt ddychwelyd i Ewrop buont yn byw ar wahân, a chawsant ysgariad o'r diwedd ym 1906.
Symudodd Margaretha i Baris ym 1903 i hyfforddi'n ddawnswraig, ac enillodd arian fel model i arlunwyr a phutain. Dechreuodd Margaretha ddawnsio ym Mharis ym 1905 dan yr enw Lady MacLeod. Mabwysiadai'r enw Mata Hari, ymadrodd Maleieg (yn llythrennol, "llygad y dydd") sydd yn cyfeirio at yr haul. Fel rhan o'i delwedd ddirgel ac ecsotig, honnai taw dawnsferch o'r India oedd ei mam, a chafodd ei geni rhywle ar hyd arfordir Malabar. Yn ôl y stori ddychmygol, bu farw'r fam wrth iddi esgor ar ei baban, a chafodd Mata Hari ei magu mewn teml wedi ei chysegru i'r duw Shiva.
Denodd ei dawnsiau Dwyreiniol nifer o wylwyr, yn enwedig am ei bod yn fodlon perfformio heb fawr o ddillad, i theatrau vaudeville ym Mharis, Berlin, Fienna, Rhufain, a Llundain. Perfformiodd hefyd ddawnsiau hynod o erotig, yn noethlymun, i gylchoedd uchaf cymdeithas. Trwy'r cynulleidfaoedd preifat hyn, daeth Mata Hari i wybod nifer fawr o ddynion blaenllaw ym myd gwleidyddiaeth a'r lluoedd arfog, a bu'n gariad i nifer ohonynt.
Honnir iddi fynychu ysgol ysbïo yr Almaenwyr yn Lörrach cyn y Rhyfel Byd Cyntaf, a'i bod yn gyfarwydd â dynion pwerus yn y wlad honno, gan gynnwys y Tywysog Coronog Wilhelm a phennaeth heddlu Berlin. Caniatawyd iddi ddychwelyd i Ffrainc ym 1915, am fod yr Iseldiroedd yn wlad niwtral.
Mae'n bosib i gonswl Almaenig yn yr Hâg, yng ngwanwyn 1916, gynnig ei thalu am wybodaeth o'i theithiau i Ffrainc. Dywed iddi gytuno hefyd i ddarparu gwybodaeth i'r Ffrancod pan oedd yng Ngwlad Belg, dan feddiannaeth yr Almaen. Cyhuddwyd Mata Hari o fod yn ysbïwraig ddauwynebog gan y Ffrancod, ac ar 13 Chwefror 1917 cafodd ei harestio ym Mharis a'i charcharu. Cafwyd yn euog gan lys milwrol yng Ngorffennaf, a'i dedfrydu i farwolaeth. Ar 15 Hydref 1917, saethwyd Mata Hari yn farw gan griw saethu yn Vincennes, nid nepell o Baris.
Ym 1930 cafodd Mata Hari ei dieuogi yn gyhoeddus gan lywodraeth yr Almaen.
Bywyd cynnar (1876–1904)
Ganed Margaretha Geertruida Zelle ar 7 Awst 1876 yn Ljouwert (Leeuwarden) yng Ngorllewin Ffrisia, yr Iseldiroedd, yn ferch i Adam Zelle a'i wraig Antje (Antje van der Meulen gynt). Perchennog ar siop hetiau oedd Adam, a chanddo farf fawr ac archwaeth liwgar. Gwahanodd rhieni Margaretha ym 1890, ac yn fuan wedyn bu farw Antje. Er yr oedd ei fusnes ar un tro yn llwyddiannus, aeth y siop hetiau i'r wal, a symudodd Adam i Amsterdam.[2] Anfonwyd Margaretha i fyw gyda'i hewythr yn yr Hâg, a mynychodd ysgol athrawon yn Leiden.
Ym Mawrth 1895, yn 18 oed, darllenodd Margaretha mân-hysbyseb mewn un o bapurau newydd Amsterdam yn galw am ferch gymharus ifainc i gwrdd â swyddog milwrol ar ei seibiant o India'r Iseldiroedd, gan anelu at gytuno ar briodas. Cafodd yr hysbyseb ei anfon gan un o gyfeillion Rudolf John MacLeod, capten 38 oed ym Myddin Frenhinol India'r Iseldiroedd. Atebodd Margaretha gyda ffotograff o'i hunan. Cyfarfu'r ddau am y tro cyntaf yn y Rijksmuseum, ac erbyn diwedd y mis buont yn ddyweddïedig. Priodasant ar 11 Gorffennaf 1895 yn Neuadd Ddinesig Amsterdam.[2] Treuliodd y cwpl ugain mis cyntaf eu briodas yn byw mewn cymdogaeth ffasiynol yn Amsterdam. Yn Ionawr 1897, esgorodd Margaretha ar ei phlentyn cyntaf, mab o'r enw Norman.
Bu'r Capten MacLeod mewn dyled fawr o ganlyniad i'w gamblo, ac o'r herwydd penderfynodd symud i fyw tramor. Tri mis wedi genedigaeth Norman, teithiodd y teulu i India'r Iseldiroedd ar long y Prinses Amalia, ac o fewn blwyddyn iddynt gyrraedd cafodd Margaretha blentyn arall, merch o'r enw Jeanne Louise. Bu farw Norman ym Mehefin 1899, wedi ei wenwyno gan was anfodlon mae'n debyg. Yn sgil y drasiedi hon, a than bwysau'r hinsawdd grasboeth, gwaethygodd straen y briodas. Ym 1900 ymddiswyddodd y Capten MacLeod o'r fyddin, wedi iddo sylweddoli na fyddai'n cael ei ddyrchafu i reng cyrnol. Wedi cyfnod hir o gweryla a bywyd teuluol anhapus, cytunodd y ddau ohonynt ddychwelyd i'r Iseldiroedd ym Mawrth 1902 ac i fyw ar wahân. Erbyn Awst, gofynnodd Margaretha am wahaniad, a thrigodd hi am gyfnod yn Amsterdam ac yna yn ôl gyda'i hewythr yn yr Hâg, ac aeth Jeanne Louise i fyw gyda'i thad. Ar liwt ei hunan, teithiodd i Baris am y tro cyntaf ym 1903, ond heb arian na chyfeillion bu'n rhaid iddi ennill arian fel model i arlunwyr. Dychwelodd i'r Iseldiroedd, ond heb fawr o gyfleoedd yno chwaith penderfynodd Margaretha deithio'n ôl i Baris ym 1904 i ddod ymlaen yn y byd.[3]
Cyfeiriadau