Mathemategydd o Iran oedd Maryam Mirzakhani (3 Mai 1977 – 14 Gorffennaf 2017) a addysgodd fathemateg ym Mhrifysgol Stanford.[1][2][3] Ymchwiliodd i bynciau damcaniaeth Teichmüller, geometreg hyperbolig, damcaniaeth ergodig, a geometreg symplectig.
Hi oedd y fenyw gyntaf a'r mathemategydd cyntaf o Iran i ennill Medal Fields,[4] y wobr uchaf ei bri ym maes mathemateg, a hynny yn 2014 am ei gwaith mewn "dynameg a geometreg arwynebau Riemann a'u gofodau modwli".[5][6][7]
Bu farw Mirzakhani o ganser y fron yn 40 oed.[8]