Mae Marlborough yn dalaith o Seland Newydd yng ngogledd ddwyrain Ynys y De. Tref fwyaf Marlborough yw Waiharakeke (Saesneg: Blenheim) a oedd â phoblogaeth o 24,183 yn 2013.[1]Picton oedd brifddinas y dalaith hyd at 1865, pan gymerodd Waiharakeke drosodd. Cysylltwyd y ddwy dref gan reilffordd ym 1875. Dechreuodd gwasanaeth fferi rhwng Picton a Wellington ym 1962.[2]
Roedd gan Kaikoura boblogaeth o 1,971 yn 2013 ac mae un ymhob pump yn Maori. Agorwyd y rheilffordd rhwng Picton a Christchurch yn Kaikoura ar 15 Rhagfyr 1945. Mae ceunant tanforol Kaikoura yn denu morfilod at yr arfordir, sydd yn denu twristiaid i'r dref. [3]
Mae Marlborough'n enwog am ei win gwyn, yn benodol gwin Sauvignon Blanc.[4]
Hanes
Ymwelodd James Cook â Meretoto (Saesneg: Ship Cove) ar 15 Ionawr 1770.[5]