Maria Latore

cymeriad Grand Theft Auto
MariaLatore yn GTA III
Ymddangosiad cyntaf"Chaperone"
Ymddangosiad olaf"The Exchange"
Crewyd ganRockstar
LlaisDebi Mazar yn GTA III
Fiona Gallagher yn GTA: Liberty City Stories
Rhywbenyw
DinasyddiaethUDA
GwaithGwraig Salvatore Leone

Mae Maria Latore yn gymeriad yn y gyfres gemau fideo Grand Theft Auto.[1] Mae hi'n gwneud ymddangos mewn tair gêm. Mae hi'n brif gymeriad yn Grand Theft Auto III (a osodwyd yn 2001), cymeriad bach yn Grand Theft Auto: San Andreas (a osodwyd ym 1992) ac yn gymeriad cefnogol yn Grand Theft Auto: Liberty City Stories (a osodwyd ym 1998). Hi yw gwraig Salvatore Leone Don (pennaeth) Teulu Leone a llys fam i'w fab, Joey. Mae'r cymeriad yn cael ei lleisio yn GTA III[2] a GTA San Andreas gan Debi Mazar, ac yn GTA: Liberty City Stories, mae'n cael ei lleisio gan Fiona Gallagher[3].

Maria yn Grand Theft Auto: San Andreas

Mae Maria Latore yn ymddangos, gyntaf yn ôl cronoleg y gemau, yn Grand Theft Auto: San Andreas. Mae hi'n ymddangos fel gweinyddes yn casino Palas Caligula sy'n cael ei redeg gan gonsortiwm o deuluoedd maffia, gan gynnwys teulu Leone. Mae Maria yn ymddangos mewn ffilmiau rhagarweiniol i ddwy o'r tasgau. Yn y cyntaf, tasg Freefall[4], mae hi'n gweini brechdan i Salvatore. Mae hi'n ei drin o braidd yn ddigywilydd, sydd yn creu argraff arno, gan ei fod wedi arfer a phobl yn dangos parchedig ofn iddo fel Don yn y Maffia. Erbyn yr ail ffilm ragarweiniol, St Mark's Bistro[5] mae'n amlwg bod perthynas wedi dechrau rhwng y ddau gan fod Salvatore yn gwneud sylwadau rhywiol awgrymog iddi.

Maria yn Grand Theft Auto: Liberty City Stories

Erbyn cyfnod Liberty City Stories (1998), mae Maria wedi priodi Salvatore Leone[6] ac wedi dieithrio yn ei pherthynas ag ef. Er ei bod yn wraig iddo, dydy'r ddau ddim yn cydfyw yn yr un cartref.[7]

Mae Maria bellach wedi dod yn gaeth i gyffuriau anghyfreithlon. Roedd hi hefyd wedi dechrau twyllo ar Salvatore trwy gael perthynas all briodasol gydag arweinydd giang y Beicwyr Cedric "Wayne" Fotheringay. Roedd Salvatore yn ymwybodol o'r berthynas ac yn ei ddefnyddio'n aml wrth ffraeo efo'i wraig. Mae hi'n ceisio dial ar ei ŵr trwy geisio gwerthu cyfrinachau Teulu Leone i'r newyddiadurwr Ned Burner trwy negeseuon e-bost, ond mae'r ddau yn methu dod i gytundeb bris.

Mae prif gymeriad y gêm Toni Cipriani yn cael y dasg o ymddwyn fel chaperone i Maria. Mae'r swydd yn aml yn arwain iddo ei achub rhag trafferthion. Mae o'n ei helpu i ffoi ar ôl iddi ladrata o dair siop leol. Mae o'n ei hennill hi fel gwobr mewn ras ceir stryd anghyfreithlon. Mae o'n lladd ei chariad sydd yn ei cham-drin, ac yn achub ei bywyd ar ôl gorddos cyffuriau.

Mae Maria yn mynegi diddordeb rhamantus tuag at Toni, ond dydy o ddim yn dangos diddordeb cyffelyb tuag ati hi. Mae ei chynhesrwydd serchus yn dod i ben wedi iddi ganfod nad oes gan Toni llawer o arian.

Maria yn GTA III

Erbyn Cyfnod GTA III (2001) mae'r berthynas gyda Salvatore yn parhau'n stormus, er bod y ddau wedi ail ddechrau byw ar yr un aelwyd. Mae Claude, prif gymeriad y gêm yn cael y dasg o weithio fel gyrrwr ar ran Maria. Er mwyn gwneud ei gŵr yn eiddigeddus mae Maria yn dweud wrtho ei bod wedi cael perthynas rhywiol efo Claude ac mae Salvatore yn penderfynu lladd y ddau. Mae Maria yn clywed am y cynllun ac mae hi a Claude yn ffoi gyda chymorth Asuka Kasen, ffrind i Maria

Mae Asuka a'i brodyr Kazuki a Kenji yn aelodau o gang debyg i'r Maffia o Japan, y Yakuza. Mae hi'n fodlon rhoi lloches a gwaith i Claude ar yr amod ei bod yn profi ei bod wedi torri pob cysylltiad â Syndicâd Maffia Leone trwy ladd Salvatore; tasg mae o'n ei gyflawni. Mae Claude wedyn yn cyflawni nifer o dasgau ar gyfer y Yakuza y eu rhyfel yn erbyn gang elyniaethol iddynt, Cartel y Colombiaid sy'n cael ei arwain gan gyn cariad Claude, Catalina.[8] Wrth i'r rhyfel yn erbyn y Cartel dwysáu, mae Asuka a Maria yn cael gwybod am hanes perthynas Claude a Catalina ac yn disgwyl iddo wneud llawer mwy i geisio ei threchu. Yn y pen draw, mae ei ymdrechion yn denu sylw Catalina. Mae'r Colombiaid yn herwgipio Maria ac yn llofruddio Asuka. Maent yn cysylltu â Claude i ddweud wrtho fod yn rhaid iddo dalu pridwerth o $500,000 yn gyfnewid am ryddhau Maria. Pan fydd Claude yn herio Catalina, mae hi'n ceisio ei ladd, ond mae o'n dianc. Yn y frwydr ddilynol, mae Catalina yn ceisio ffoi mewn hofrennydd ac yn gwneud ymgais derfynol i ladd Claude. Wedi lladd yr aelodau Cartel sy'n weddill ac achub Maria, mae Claude yn saethu'r hofrennydd yn yr awyr, gan ladd Catalina.

Marwolaeth?

Mae clip olaf GTA III yn dangos Claude a Maria yn cerdded i ffwrdd, wrth i'r sgrin tywyllu, clywir llais Maria yn parablu ym mlaen hyd glywed ergyd gwn. Mae ei thynged yn amwys gyda Rockstar Games yn gwrthod dweud os oedd Claude wedi saethu ei gwn i ladd Maria neu dim ond i dawelu ei chlebran.[9]

Cyfeiriadau

  1. "Maria Latore". Grand Theft Wiki. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2018.
  2. "Grand Theft Auto III (2001 Video Game) Full Cast & Crew". IMDb. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2018.
  3. "Maria Latore". Fandom. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2018.
  4. Willzyyy (15 Ebrill 2011). "Freefall". YouTube. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2018.
  5. Willzyyy (16 Ebrill 2011). "St Marks Bistro". You Tube. Cyrchwyd 13 Gorffennaf 2018.
  6. "Salvatore Leone". grandtheftwiki. Cyrchwyd 19 Mehefin 2018.
  7. "Salvatore Leone". Giant Bomb. 19 Mehefin 20018. Check date values in: |date= (help)
  8. Schedeen, Jesse (28 Ebrill 2008). "GRAND THEFT AUTO: FAVORITE BADASSES". IGN UK. Cyrchwyd 10 Mehefin 2010.
  9. "(UPDATED) Asked & Answered – Re: Vice City, Red Dead Redemption and Chinatown Wars". Rockstar Games. 18 Medi 2009. Cyrchwyd 12 Mai 2015.