Margherita Bevignani

Margherita Bevignani
Ganwyd1887 Edit this on Wikidata
Napoli Edit this on Wikidata
Bu farwMawrth 1921 Edit this on Wikidata
Milan Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Eidal Yr Eidal
Galwedigaethcanwr opera Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata

Soprano operatig o'r Eidal oedd Margherita Bevignani (1887(?) - Mawrth 1921), sy'n fwyaf adnabyddus am fod y canwr cyntaf i recordio rôl Violetta yn opera La traviata Giuseppe Verdi yn ei gyfanrwydd ym 1915.[1]

Bywgraffiad

Mae diffyg gwybodaeth am le ganwyd Bevignani a'i blynyddoedd cynnar. Mae'n debyg iddi gael ei geni ym 1887 ac astudiodd ganu gydag athro o'r enw Perilli. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf ym 1909 yn Politeama Garibaldi yn Nhreviso fel Micaela yn Carmen Bizet. Yn dilyn hynny, fe’i gwahoddwyd i lawer o lwyfannau taleithiol yr Eidal, megis y Teatro Petruzzelli yn Bari a’r Teatro Massimo Bellini yn Catania. Ym 1910 gwnaeth sawl ymddangosiad gwestai mewn nifer o dai opera yn America Ladin, gan gynnwys Theatro Municipal yn Rio de Janeiro,[2] lle canodd Musetta yn La bohème a Gilda yn Rigoletto gan Puccini. Yn 1911 perfformiodd rôl Marguerite de Valois yn Les Huguenots gan Giacomo Meyerbeer yn y Teatro Donizetti yn Bergamo o dan gyfarwyddyd Gino Marinuzzi.[3] Ym 1912 cyrhaeddodd Bevignani Milan, lle canodd Amina yn La sonnambula gan Bellini yn y Teatro dal Verme, er na ymddangosodd erioed yn La Scala. Yn yr un flwyddyn aeth ar daith i Llundain. Er na lwyddodd erioed i ganu yn y Tŷ Opera Brenhinol, perfformiodd Nedda yn Pagliacci gan Leoncavallo yn Theatr y Coliseum.[4] Ym 1914-1916 gwahoddwyd Bevignani i'r Iseldiroedd, lle cafodd ganmoliaeth arbennig am ei Violetta yn La traviata yn ogystal â Norina yn Don Pasquale gan Gaetano Donizetti. Gorfododd mynediad yr Eidal i'r Rhyfel Byd Cyntaf arhosiad y gantores yn yr Iseldiroedd, lle rhoddodd berfformiadau llwyddiannus fel Violetta, Gilda, Rosina yn Il barbiere di Siviglia gan Rossini a Lucia di Lammermoor yn opera Donizetti o'r un teitl.

Marwolaeth

Ar ôl dychwelyd i'r Eidal ym 1918, cafodd Bevignani ei daro gan ymosodiad ffyrnig o'r diciâu a roddodd ddiwedd ar ei gyrfa. Ei pherfformiad olaf oedd La traviata yn y Royal Theatre Carré yn Amsterdam lle canodd Violetta. Bu farw Margherita Bevignani ym Milan ym mis Mawrth 1921, yn ddim ond 34 oed.

Disgyddiaeth

Er na chafodd Margherita Bevignani cydnabyddiaeth fyd-eang fel un o sêr mawr y llwyfan opera ac na lwyddodd i ganu yn unrhyw un o brif dai opera'r byd, mae enw'r gantores yn arwyddocaol. Canodd Violetta yn y recordiad Eidaleg cyflawn cyntaf o La traviata ym 1915 gyda Franco Tumminello ac Ernesto Badini yn bartneriaid, a wnaed gan HMV ym Milan gyda lluoedd La Scala o dan gyfarwyddyd Carlo Sabajno. Mae'n dangos Bevignani fel soprano goloratwra. Yn ogystal, gellir clywed Bevignani ar nifer o recordiadau ar wahân a wnaed ar gyfer y cwmni Favorite, gan gynnwys dyfyniadau estynedig o Faust Gounod, arias a deuawdau gan Verdi, Bellini, Donizetti, Rossini, Wagner a Massenet.

Cyfeiriadau

  1. Arakelyan, Ashot (2013-12-03). "FORGOTTEN OPERA SINGERS : Margherita Bevignani (Soprano) (?1887 - Milano 1921)". FORGOTTEN OPERA SINGERS. Cyrchwyd 2021-02-27.
  2. "Echoes of Music Abroad," Musical America (May 21, 1910), p. 11.
  3. "Bevignani, Margherita," Grosses Sängerlexikon, Vierte, erweiterte und aktualisierte Auflage, (München: K.G. Sauer, 2003), Band 1, p. 398.
  4. La Voce Antica. "