Mahmood Hussein Mattan

Mahmood Hussein Mattan
Llun o ben ac ysgwyddau Mahmood Hussein Mattan
Mahmood Hussein Mattan
Ganwyd1923
Somaliland Brydeinig
Bu farw3 Medi 1952(1952-09-03) (28–29 oed)
Carchar Caerdydd Ei Fawrhydi, Caerdydd, Cymru
Achos marwolaethDienyddio trwy grogi
Man gorweddMynwent y Gorllewin, Caerdydd
PriodLaura Mattan (enw cyn priodi: Williams)
EuogfarnLlofruddio (diddymwyd)

 

Cyn-fasnachlongwr o Somalia Brydeinig oedd Mahmood Hussein Mattan (19233 Medi 1952), a gafodd ei gameuogfarnu yn y Deyrnas Unedig o lofruddio Lily Volpert ar 6 Mawrth 1952. Digwyddodd y llofruddiaeth yn ardal dociau Caerdydd, a chafwyd Mattan yn euog yn bennaf ar dystiolaeth un tyst oedd gan yr erlyniad. Fe'i dienyddiwyd ef yn 1952.

Cafwyd gorchymyn dileu ei euogfarn 45 mlynedd yn ddiweddarach ar 24 Chwefror 1998, ac achos Mattan oedd y cyntaf i gael ei gyfeirio at y Llys Apêl gan y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol newydd ar y pryd.[1][2]

Bywyd cynnar

Ganed Mahmood Hussein Mattan yn Somalia Brydeinig yn 1923 ac aeth i Gymru fel rhan o'i waith fel masnachlongwr, lle ymgartrefodd yn Tiger Bay yn ardal dociau Caerdydd. Yno y cyfarfu â Laura Williams, gweithwraig mewn ffatri bapur. Priododd y ddau gwta dri mis ar ôl cyfarfod ond fel cwpl amlhil, roeddent yn dioddef camdriniaeth hiliol gan y gymuned.[dyfyniad sydd ei angen]

Cafodd y pâr dri o blant, ond yn 1950, fe wahanon nhw ac wedi hynny buont yn byw ar wahân mewn tai yn yr un stryd. Roedd Mahmood wedi gadael y llynges fasnachol yn 1949, ac erbyn 1952, roedd wedi gwneud nifer o swyddi gwahanol, gan gynnwys gweithio mewn ffowndri ddur.[3][4]

Euogfarn am lofruddiaeth

Llofruddiaeth ac ymchwiliad

Llofruddiwyd Lily Volpert, menyw 42 oed a oedd yn berchen ar siop ddillad yng nghyffiniau dociau Caerdydd, ar 6 Mawrth 1952. Ar ôl cau’r siop tua 20:05, roedd ar fin cael swper gyda’i theulu yn yr ystafell gefn pan ganodd cloch y drws. Gwelodd ei chwaer a'i mam ddyn y tu allan i ddrws y siop ac aeth Lily i siarad ag ef. Ychydig funudau yn ddiweddarach, gwelodd ei nith Lily yn siarad â dyn arall, i bob golwg, wrth y drws. Yn fuan wedyn, daethpwyd o hyd i'w chorff yn y siop gan gwsmer arall. Roedd ei gwddf wedi cael ei thorri â raser neu gyllell finiog ac roedd yn ymddangos bod o leiaf £100 (2570) wedi cael ei ddwyn.[5]

Bu Heddlu Dinas Caerdydd yn ymchwilio i nifer o ddynion lleol, gan gynnwys Mattan. Rhyw ddwy awr ar ôl y llofruddiaeth, ymwelodd dau dditectif â'i gartref a holi Mattan. Buont yn chwilio yn ei ystafell ond ni ddaethant ar draws dim byd amheus. Nid oedd tystiolaeth o waed ar unrhyw ddillad, o'r arian coll nac o rywbeth a allai fod yn arf llofruddio. Yn ddiweddarach, roedd tystion eraill yn gwrth-ddweud alibi Mattan a bu i'r heddlu’n ei holi’n ddwys a threfnu i chwaer, mam a nith Lily Volpert ddod i geisio adnabod y troseddwr ond ni ddewison nhw Mattan o'r dynion a ddangoswyd iddynt.[6]

Gwnaethant holi dwy fenyw hefyd, Mary Tolley a Margaret Bush, a oedd wedi bod yn y siop yn syth cyn iddi gau. Rhoddodd y ddwy hyn ddatganiadau manwl ond nid oedd dim sôn ganddynt am weld rhywun arall yn y siop. Ar ôl i Mattan ddod dan amheuaeth, dangoswyd llun ohono iddynt a dywedon nhw eu bod yn ei adnabod o ran ei olwg ond heb ei weld ers tua mis. Ond wedyn yn dilyn rhagor o holi dwys, gwnaeth Mary Tolley ddatganiad arall gan ddweud bod Mattan wedi dod i mewn i'r siop tra roedden nhw yno ac yna roedd wedi gadael. Er hyn, roedd Margaret Bush yn parhau i ddweud nad oedd hi wedi gweld person arall yno. Arestiwyd Mattan yn syth ar ôl hyn ac ar y diwrnod canlynol, ddeg diwrnod ar ôl y drosedd, cafodd ei gyhuddo o lofruddio Lily Volpert.

Yn nes ymlaen, gwnaeth Mary Tolley ddatganiad arall yn dweud nad oedd wedi gweld Mattan yn gadael y siop. Awgrymai'r heddlu fod Mattan wedi cuddio a llofruddio Lily Volpert yn syth ar ôl i’r ddwy fenyw adael. Fe gelon nhw ddatganiad manwl cynharach Tolley nad oedd wedi sôn bod rhywun yno. Hefyd, cuddion nhw ddatganiadau gwreiddiol teulu Lily, a oedd yn awgrymu iddi gael ei gweld wrth y drws ddwywaith ar ôl hynny. Roeddent yn dadlau bod hyn wedi digwydd yn gynt, cyn i’r merched gyrraedd. [7]

Achos traddodi

Cyflwynwyd achos yr erlyniad yn yr achos traddodi yn llys ynadon Caerdydd ar 16-18 Ebrill. Cyn hyn, daeth yr heddlu â thyst arall o flaen Mattan, merch 12 oed a oedd wedi galw yn y siop am tua 20:00 ac wedi gweld dyn â chroen tywyll gerllaw. Ond dywedodd hefyd nad Mattan oedd y dyn yr oedd wedi'i weld. Yn ystod y gwrandawiad, newidiodd Mary Tolley ei thystiolaeth eto, gan fethu ag adnabod Mattan fel y dyn a ddaeth i mewn i’r siop. Ond fe wnaeth tyst arall, Harold Cover, dyn o Jamaica â hanes o drais, ei adnabod. Roedd wedi cerdded heibio i’r siop adeg y llofruddiaeth ac wedi gweld dau Somaliad y tu allan. Roedd un yn cerdded allan o'r cyntedd a'r llall–dyn chwe throedfedd o daldra–yn sefyll wrth y drws. Yn y llys dywedodd mai Mattan oedd y dyn cyntaf ond mewn gwirionedd, yn gynharach roedd wedi adnabod y dyn cyntaf fel Somaliad arall a oedd yn byw yn yr ardal ar y pryd, Tahir Gass, ond ni ddaeth hyn i'r amlwg yn gyhoeddus tan 1998. Canlyniad hyn oll oedd i Mattan gael ei draddodi i sefyll ei brawf. [8]

Treial

Cynhaliwyd yr achos yn Mrawdlys Morgannwg yn Abertawe ar 22-24 Gorffennaf 1952 gerbron Mr Ustus Ormerod a rheithgor. Harold Cover oedd prif dyst yr erlyniad. Rhoddodd tyst arall, May Gray, dystiolaeth ei bod wedi gweld Mattan gyda dyrnaid o arian papur yn fuan ar ôl y llofruddiaeth. Ond awgrymodd cwnsler Mattan ei bod hi'n dweud celwydd oherwydd y wobr o £200 (yn gyfwerth â £5,140 yn 2025) a gynigiwyd gan deulu Volpert (y derbyniodd Cover ran ohono yn ddiweddarach). Cyflwynwyd hefyd dystiolaeth o ganfod smotiau microsgopig o waed ar bâr o esgidiau Mattan ond daethpwyd o hyd i'r esgidiau hyn mewn tomen sbwriel ac nid oedd tystiolaeth wyddonol yn cysylltu'r gwaed â'r llofruddiaeth. Er i Mary Tolley roi tystiolaeth, ni chlywodd y rheithgor fod tystion eraill wedi methu ag adnabod Mattan.

Dyfarnwyd bod rhan helaeth o dystiolaeth yr erlyniad yn annerbyniol diolch i fargyfreithiwr Mattan oherwydd y cyfyngiadau a oedd yn bodoli ar y pryd ar holi pobl a ddrwgdybid yn y ddalfa. Ond yn ei araith gloi, disgrifiodd ei gleient fel "hanner plentyn natur, hanner lled-waraidd". Mae'n bosibl bod y sylwadau hyn wedi niweidio barn y rheithgor ac wedi tanseilio amddiffyniad Mattan. Cafwyd Mattan yn euog o lofruddiaeth Lily Volpert a rhoddodd y barnwr y ddedfryd orfodol o farwolaeth iddo.[3][9]

Dienyddiad

Gwrthodwyd caniatâd i Mattan apelio a galw tystiolaeth bellach ym mis Awst 1952, a phenderfynodd yr Ysgrifennydd Cartref na fyddai'n cael ei atal. Ar 3 Medi 1952, chwe mis ar ôl llofruddiaeth Volpert, crogwyd Mattan yng Ngharchar Caerdydd. Dyma'r person olaf i gael ei grogi yn y carchar hwnnw.[10][11]

Digwyddiadau wedyn

Yn 1954, cafwyd Tahir Gass, y dyn a welwyd y tu allan i siop Lily Volpert gan Harold Cover, yn euog o lofruddio clerc cyflogau, Granville Jenkins, mewn lôn wledig ger Casnewydd. Roedd Jenkins wedi cael ei drywanu i farwolaeth mewn ymosodiad gwyllt. Yn achos llys Gass, cyflwynwyd tystiolaeth feddygol i ddweud ei fod yn dioddef o sgitsoffrenia a'i fod yn gweld rhithdybiau. Fe'i cafwyd yn wallgof a'i anfon i garchar Broadmoor, ond lai na blwyddyn yn ddiweddarach, cafodd ei ryddhau a'i ddychwelyd i brotectoriaeth Somalia Brydeinig, a ddaeth yn rhan o Somalia wedyn a Somaliland erbyn heddiw.[12]

Yn 1969 cafwyd Harold Cover euogfarn o geisio llofruddio ei ferch yng Nghaerdydd drwy dorri ei gwddf â raser agored ac felly carcharwyd ef am oes.[13]

Cafwyd hyd i fab canol Mattan, Omar, yn farw ar draeth yn yr Alban yn 2003, a dychwelwyd rheithfarn agored.[10] Ym mis Gorffennaf 2006, dedfrydwyd ei fab ieuengaf, Mervyn Edward Mattan, neu "Eddie", i chwe mis o garchar am ei ran mewn lladrad banc a fethodd. Bu farw Mervyn Mattan fis Mehefin 2011 a chafodd ei ddarganfod yn ei gartref gan gyn-gariad a sawl potel sieri wag o'i amgylch. Ym mis Hydref 2012, dychwelodd cwest crwner reithfarn o farwolaeth o ddibyniaeth ar alcohol.[14][15]

Bu farw Laura Mattan yn Ysbyty Brenhinol Gwent yng Nghasnewydd ar 1 Ionawr 2008 yn 78 oed.[16]

Apêl wedi'r dienyddiad

Ceisiwyd gwrthdroi euogfarn Mattan y tro cyntaf yn 1969 ar ôl i euogfarn Harold Cover am ei ymgais i lofruddio godi pryderon ynghylch yr achos yng Nghaerdydd ond penderfynodd yr Ysgrifennydd Cartref James Callaghan beidio ag ailagor yr achos. Erbyn hynny, roedd tair blynedd wedi mynd heibio ers diddymu'r gosb eithaf.[17][18]

Yn 1996, cafodd y teulu ganiatâd i ddatgladdu corff Mattan a'i symud o fedd ffelon yn y carchar i'w gladdu mewn tir cysegredig mewn mynwent yng Nghaerdydd.[3] Mae'r geiriau "KILLED BY INJUSTICE" (lladdwyd ef gan anghyfiawnder) i'w gweld ar ei garreg fedd. [19]

Pan sefydlwyd y Comisiwn Adolygu Achosion Troseddol yng nghanol y 1990au, achos Mattan oedd y cyntaf a gyfeiriwyd ato. Ar 24 Chwefror 1998, daeth y Llys Apêl i’r dyfarniad y gellir dangos bod yr achos gwreiddiol yn ddiffygiol, yn ôl yr Arglwydd Ustus Rose. Rhoddwyd iawndal o £725,000 i'r teulu i'w rannu'n gyfartal rhwng gwraig Mattan a'i dri o blant.[10] Dyma'r iawndal cyntaf a roddwyd i deulu neu i berson a grogwyd ar gam.[20]

Ar 3 Medi 2022, sef 70 mlynedd ers dienyddio Mattan, cyhoeddwyd bod Heddlu De Cymru, a oedd erbyn hynny yn cynnwys Heddlu Dinas Caerdydd cynt, wedi ymddiheuro i deulu Mattan, gan gyfaddef bod yr erlyniad yn ddiffygiol.[21][22]

Mewn diwylliant poblogaidd

Mae nofel Nadifa Mohamed The Fortune Men (2021) yn seiliedig ar lofruddiaeth Lily Volpert a threial a dienyddiad Mahmood Mattan. Cyrhaeddodd restr fer Gwobr Booker yn 2021.[23]

Yn 2022, gwnaeth yr actor a'r awdur Danielle Fahiya gyflwyno, ysgrifennu a chynhyrchu rhaglen BBC Sounds Mattan: Injustice of a hanged man.[24] Cafodd ei chynnwys ar restr The Financial Times o bodlediadau gorau 2022.[25]

Cyfeiriadau

  1. "MPs warn criminal review commission". The BBC. 30 March 1999. Cyrchwyd 28 February 2009.
  2. "MATTAN, MAHMOOD HUSSEIN (1923 - 1952), morwr a dioddefwr anghyfiawnder | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-05-16.
  3. 3.0 3.1 3.2 Midgely, Carol (7 June 2001). "Injustice casts a lifelong shadow". The Times. innocent.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 March 2016. Cyrchwyd 13 March 2014.
  4. Davies, pp. 20-21; Phillips, pp. 53-58.
  5. Davies, pp. 11-13; Phillips, pp. 18-24.
  6. Davies, pp. 15-16, 25-26, 36, 38-40; Phillips, pp. 65-69, 73-84.
  7. Davies, pp. 17-18; Phillips, pp. 93-104, 121-127.
  8. Davies, pp. 31-32; Phillips, pp. 137-144, 267-268.
  9. Davies, pp. 44-50; Phillips, pp. 156-200.
  10. 10.0 10.1 10.2 "Open verdict on hanged man's son". BBC News. 22 October 2003. Cyrchwyd 13 March 2014.
  11. Davies, pp. 51-58; Phillips, pp. 201-211.
  12. Thomas, pp. 103-111; Davies, pp. 68-70; Phillips, pp. 222-232.
  13. Davies, p. 59; Phillips, pp. 243-244.
  14. "Son of last hanged Welsh man sentenced". WalesOnline. 24 July 2006. Cyrchwyd 5 July 2023.
  15. Morgan, Sion (10 October 2012). "More tragedy for the family of hanged man; Son of last prisoner executed in Cardiff drank himself to death". South Wales Echo. Cyrchwyd 5 July 2023.
  16. "Wife of last man hanged in Cardiff dies, 78". WalesOnline. 10 January 2008. Cyrchwyd 5 July 2023.
  17. Lee, Adrian (25 February 1998). "Widow wins fight to clear hanged husband". The Times (yn Saesneg). innocent.org. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 4 Mawrth 2016. Cyrchwyd 13 Mawrth 2014.
  18. Davies, pp. 60-64; Phillips, pp. 245-256.
  19. Mohamed, Safia (2019-01-28). "'Killed by injustice': The hanging of British Somali Mahmood Mattan". BBC News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2019-01-25.
  20. Davies, John; Jenkins, Nigel; Menna, Baines; Lynch, Peredur I., gol. (2008). The Welsh Academy Encyclopaedia of Wales. Cardiff: University of Wales Press. t. 544. ISBN 978-0-7083-1953-6.
  21. Fahiya, Danielle (3 September 2022). "South Wales Police apology 70 years after hanging injustice". BBC News. Cyrchwyd 3 September 2022.
  22. Clinton, Jane (2022-09-03). "Police apologise for wrongful conviction of man executed 70 years ago". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2022-09-04.
  23. Prior, Neil (8 August 2021). "Booker Prize: Novel inspired by last hanging at Cardiff prison". BBC News Online. Cyrchwyd 8 August 2021.
  24. "BBC Sounds - Mattan: Injustice of a Hanged Man - Available Episodes". www.bbc.co.uk (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-10.
  25. "Best podcasts of 2022". Financial Times. 2022-12-21. Cyrchwyd 2023-01-10.