Yno y darganfuwyd un o'r twmpathau claddu tywysogaidd pwysicaf o gyfnod y Celtiaid yng nghanolbarth Ewrop. Ei led gwreiddiol oedd 104m a'i uchder 8-10m. Ynghyd â thwmpath cyffelyb yn Hohmichele, yntau yn yr Almaen, mae'n un o'r enghreifftiau hynaf o'r dosbarth hwn o henebion.
Cloddiwyd canol y twmpath a'i siambr gladdu ganol, a gawsai ei hysbeilio ganrifoedd cyn hynny, yn 1890. Yn 1970-1974 cloddiwyd y siambr a gweddill y safle yn drwyadl a darganfuwyd 126 o feddau eraill.
Mae'r darganfyddiadau o'r beddau, sy'n cynnwys nifer o addurnau cynnar, i'w gweld yn amgueddfa Villingen-Schenningen (Franziskaner-Museum).
Ar ddiwedd yr ymchwiliad archaeolegol gorchuddiwyd y safle o'r newydd er mwyn cyfleu ei ymddangosiad gwreiddiol.
Ffynhonnell
Bernhard Maier, Dictionary of Celtic Religion and Culture (Woodbridge, 1997)