Mae Maes Awyr Sifil Amman ( IATA:ADJ, ICAO:OJAM) sy'n cael ei alw'n gyffredinol Maes Awyr Rhyngwladol Marka, wedi'i leoli yn ardal Marka, ym mharth Dinesig Amman Fwyaf, Gwlad yr Iorddonen, rhyw 5 km i'r gogledd-ddwyrain o ganol dinas Amman.
Mae'n gwasanaethu fel prif faes awyr sifil Amman i deithwyr ar deithiau siartredig a theithiau preifat. Mae'n cael ei ddefnyddio yn ogystal fel canolfan addysg a hyfforddiant hedfan. Hwn oedd y prif faes awyr ar gyfer Gwlad yr Iorddonen hyd i Faes Awyr Rhyngwladol y Frenhines Alia agor ym 1983.
Hanes
Sefydlwyd y maes awyr ym 1950 gan Awdurdodau'r DU fel maes awyr ar y cyd ar gyfer gwasanaethau sifil a milwrol .[1] Yn 2009, fe wnaeth Cwmni Maes Awyr Gwlad yr Iorddonen gymryd drosodd cyfrifoldeb gweithredol dros Faes Awyr Sifil Aman yn swyddogol. Mae'r cwmni hefyd yn gyfrifol am ddatblygiad 6,000 km2 o amgylch Maes Awyr Rhyngwladol y Frenhines Alia. Erbyn hyn mae'n gwasanaethu fel maes awyr rhanbarthol sy'n gwasanaethu llwybrau domestig a rhyngwladol i wledydd agos, yn ogystal â theithiau VIP a theithiau siarter preifat. Mewn cydweithrediad ag ymgynghorwyr arbenigol rhyngwladol, mae'r cwmni wedi paratoi prif gynllun cynhwysfawr ar gyfer Maes Awyr Sifil Aman, sy'n cynnwys nifer o brosiectau cyfalaf. Dechreuodd y cwmni weithredu cam cyntaf y prif gynllun i ddatblygu'r cyfleusterau yn y Maes Awyr; yn 2012. Adnewyddwyd y Lolfa VIP gyda lefel newydd o wasanaethau i'w droi yn un o derfynellau VIP mwyaf eithriadol y rhanbarth. Yn 2013, cyflwynwyd y prosiect mynediad maes awyr newydd ac ym mis Hydref 2013, dechreuodd y gwaith ailsefydlu'r derfynell gyrhaeddiad ac ehangu'r siopau di-dreth yn y maes awyr, yn ogystal â nifer o brosiectau seilwaith ac ochr awyr eraill. Mae'r maes awyr yn gartref i gwmnïau hedfan fel Royal Wings, Jordan Aviation, Arab Wings, a Petra Airlines, ac mae'n weithredol 24 awr y dydd.
Cwmnïau hedfan a chyrchfannau
Teithwyr
Gweld ymholiadau Wicidata a chyfieithu.
Jordan Aviation - Teithiau Siarter i Aqaba, Baghdad, Dubai–International, Istanbul–Sabiha Gökçen, Najaf, Kuwait
Palestinian Airlines - Teithiau i l-Arish
Cargo
Mae Cwmni Cargo Awyr Rhyngwladol Iorddonen wedi'i leoli yn Marka. Sefydlwyd y cwmni yn 2001, ac enillodd ei dystysgrif gweithredwr awyr yn 2005.[2] Mae'r cwmni'n gweithredu teithiau siarter cargo yn y Dwyrain Canol, Asia, Affrica ac Ewrop,[3] gan ddefnyddio dwy awyren, un Antonov An-12 a dau Ilyushin Il-76MF .[4]
Damweiniau
- Ar 9 Medi 1956, gwrthdarodd awyren Curtiss C-46A-45-CU, cofrestriad JY-ABV, i mewn i allt ger y maes awyr wrth geisio gwneud glaniad brys yn dilyn methiannau mecanyddol wrth ddringo. Aeth yr awyren ar dân goroesodd pawb ond un o'r teithiwr y ddamwain.
- Ar 22 Ionawr 1959, cafodd Awyren Cwmni Hedfan yr Iorddonen rhif 601, cofrestriad Convair Convair CV-240-2 JY-ACB, ddamwain 2.8 milltir i'r gogledd orllewin o Wadi-es-Sir wrth fynd at y maes awyr mewn tywydd garw. Bu farw pob un o'r 5 aelod o'r criw a 6 o'r 11 teithiwr yn y ddamwain gan ei gwneud y ddamwain awyr ddamwain oedd penderfyniad y peilot i hedfan o dan yr isafswm uchder rhagnodedig i wneud cyswllt gweledol â'r ddaear mewn tywydd garw.
- Ar 30 Mehefin 1973, ehedodd awyren Awyrofod Aeroflot 512, cofrestriad Tupolev 134A CCCP-65668, drosodd y rhedfa a tharo tŷ yn ystod y daith o'r maes awyr gan ladd 2 aelod o'r criw goroesodd 7 o bobl yn yr adeilad, y 5 aelod arall o'r criw a 78 o deithwyr y ddamwain. Penderfynwyd mai achos y ddamwain oedd penderfyniad y criw i ddarfod esgyniad yr awyren ar gyflymder o 265 km / h oherwydd bod y capten yn credu bod y cyflymder wedi gostwng oherwydd methiant un injan.
- Ar 23 Medi 1977, trawodd Learjet 36A a weithredwyd gan Arab Wings, cofrestriad JY-AFC, y ddaear mewn safle gwrthdro ar dir caled tua 8 troedfedd i'r gogledd o'r llain tacsi cyfochrog oherwydd anghydbwysedd tanwydd yn ystod yr amser esgyn. Lladdwyd pob un o'r 4 ar y bwrdd.
- Ar 1 Mai 2006, nogiodd injian a chwalodd Piper Pa-28-181 o Academi Awyr Brenhinol yr Iorddonen wrth geisio gwneud glaniad brys i redfa 06 pan gollodd injan yr awyren bŵer yn ystod y dringo cychwynnol. Bu farw'r ddau beilot a'u teithiwr o ganlyniad i'r ddamwain.
Cyfeiriadau