Maes Awyr Keflavík

Maes Awyr Keflavík
Mathmaes awyr rhyngwladol, maes awyr, erodrom traffig masnachol Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlKeflavík Edit this on Wikidata
Agoriad swyddogol1943 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 23 Mawrth 1943 Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirReykjanesbær, Suðurnesjabær Edit this on Wikidata
GwladBaner Gwlad yr Iâ Gwlad yr Iâ
Uwch y môr171 troedfedd Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau63.985°N 22.6056°W Edit this on Wikidata
Nifer y teithwyr7,776,147 Edit this on Wikidata
Rheolir ganIsavia Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethIsavia Edit this on Wikidata

Maes Awyr Keflavík (Islandeg: Keflavíkurflugvöllur; cod awyrfa: IATA: KEF ICAO: BIKF), a adnabir hefyd fel Maes Awyr Reykjavík–Keflavík, yw'r awyrfa fwyaf yng Ngwlad yr Iâ a phrif ganolfan trafnidiaeth ryngwladol y wlad. Mae'r awyrfa 3.1 km i'r gorllewin o dref Keflavík a 50 km i'r de orllewin o'r brifddinas,Reykjavík. Lleolir hi ger dref Keflavík.

Mae gan y maes awyr dair hedfa (runways); mae dau mewn defnydd. Maint y maes awyr yw oddeutu 25 km sgwâr. Mae'r mwyafrir o'r hediadau sydd i mewn ac allan o Wlad yr Iâ drwy'r awyrfa yma.

Y prif gwmnïau hedfan yno yw Icelandair a WOW air, ill dau yn defnyddio'r maes awyr fel ei prif ganolfan. Defnyddir y maes awyr bron yn unswydd ar gyfer hediadau rhyngwladol. Bydd y rhan fwyaf o hediadau domestig yr ynys yn hedfan o Faes Awyr Reykjavík sydd 3 km o ganol y brifddinas. Ceir hediadau tymhorol o dref Akureyri yng ngogledd yr ynys i Keflavík. Gweinyddir Maes Awyr Keflavík gan Isavia, menter llywodraethol.

Hanes

Golygfa awyr o'r awyrfa

Adeiladwyd y maes awyr gan yr Unol Daleithiau yn ystod yr Ail Ryfel Byd gan ddisodli hedfa (landing strip) bychan Brydeinig oedd i'r gogledd yn Garður. Adeiladwyd dau hedfa a enwyd ar ôl dau beilot bu farw yn y rhyfel, George Meeks a Patterson. Caewyd hedfa Patterson ar ôl y Rhyfel ond cyflwynwyd 'Meeks Field' i reolaeth yr Islandwyr gan ei hail-enwi yn 'Gorsaf Awyr y Llynges, Keflavik' (Naval Air Station Keflavik) ar ôl y dref gyfagos. Ar 5 Mai 1951, cyflwynodd llu filwrol yr UDA y maes awyr i Wlad yr Iâ fel rhan o gytundeb amddiffyn rhwng y ddwy wlad.[1]

Roedd presenoldeb lluoedd milwrol NATO ar yr ynys, y sgil Cytundeb Amddiffyn 1951 yn ddadleuol i nifer o drigolion Gwlad yr Iâ gan nad oedd gan y genedl lu arfog cynhenid heblaw am Wylwyr y Glannau y wlad.[2] Yn ystod yr 1960au a 70au cynhaliwyd ralïau i brotestio yn erbyn presenoldeb filwrol yr UD, gyda'r maes awyr yn bwynt ffocws amlwg iawn. Byddai protest flynyddol yn golygu cerdded y 50om ar hyd y ffordd o'r brifddinas, Reykjavík i Keflavík. Byddai'r protestwyr yn llafarganu, "Ísland úr NATO, herinn burt" (llythrennol: Gwlad yr Iâ allan o NATO, i ffwrdd gyda'r militari"). Nid oedd y protestiadau'n llwyddiannus. Ymysg y protestwyr oedd Vigdís Finnbogadóttir, a ddaeth, maes o law, yn Arlywydd cyntaf Gwlad yr Iâ.[3]

Oherwydd natur filwrol y maes awyr, hyd nes 1987, roedd yn rhaid i deithwyr a thwristiaid sifil basio drwy dollau milwrol yn y derfynfa nes i'r derfynfa gyhoeddus gael ei hagor.

Roedd y ddau hedfa 3,000 metr o hyd a 61 metr o led yn ddigon mawr i groesawu 'Space Shuttle' NASA ac ar 29 Mehefin 1999 glaniodd yr awyren Concorde wedi hedfan o Faes Awyr Heathrow yno.

Ail-ddyfodiad Filwrol

Yn 2016 dechreuodd yr Unol Daleithiau drefniadau i ail-sefydlu canolfan yn Keflavík.[4] ac yn 2017 cyhoeddoedd yr UDA ei bwriad i adeiladu canolfan awyr fodern ar y penrhyn[5] er gwaethaf hanes o wrthwynebiad gan nifer o Islandwyr i strategaeth filwrol yr Unol Daleithiau ar yr ynys.

Adnoddau

Tu fewn terfynfa'r maes awyr.

Enwir terfynfa'r maes awyr ar ôl Leif Erikson, (Flugstöð Leifs Eiríkssonar) un o'r Ewropeaid cyntaf i lanio yng Ngogledd America. Agorwyd hi ym mis Ebrill 1987[6] gan rannu traffig sifil cyhoeddus oddi ar y ganolfan filwrol. Ehangwyd hi yn 2001 wrth agor Adeilad y De, er mwyn ateb gofynion Cytundeb Schengen, ac ehangwyd arni yn 2007. Estynnwyd Adeilad y Gogledd hefyd yn 2007.

Ceir siopau di-doll yn y lolfa gadael ac ymadael. Yn 2016 ehangwyd y terfynfa ymhellach.[7] ac agorwyd 7 gât.[8] Mae llwyddiant y maes awyr a Gwlad yr Iâ fel cyrchfan dwristiaeth yn golygu bod bellach, hefyd, gynlluniau ar gyfer agor trydydd hedfa.[9]

Traffig Teithwyr 2007–16

Cyrchfanau mwyaf prysur

Cyrchfannau Prysuraf Keflavík (2015)[10]
Safle Awyrfa Teithwyr
1. Y Deyrnas Unedig London–Gatwick, London–Heathrow, London–Luton, London–Stansted
653,508
2. Denmarc Copenhagen
437,182
3. Unol Daleithiau America New York–JFK, New York–Newark
309,827
4. Norwy Oslo–Gardermoen
301,713
5. Unol Daleithiau America Boston
271,041
6. Ffrainc Paris–Charles de Gaulle
266,689
7. Yr Iseldiroedd Amsterdam
203,466
8. Sweden Stockholm–Arlanda
167,847
9. Yr Almaen Frankfurt
144,682
10. Canada Toronto–Pearson
125,463
11. Yr Almaen Berlin–Schönefeld, Berlin–Tegel
123,367
12. Unol Daleithiau America Seattle–Tacoma
118,793
13. Y Deyrnas Unedig Manchester
110,608
14. Y Ffindir Helsinki
110,166
15. Unol Daleithiau America Washington–Dulles
110,107
16. Yr Almaen Munich
103,140
17. Unol Daleithiau America Denver
87,259
18. Y Deyrnas Unedig Glasgow–International
74,719
19. Canada Edmonton
65,900
20. Norwy Bergen
59,687

Cyfeiriadau

  1. "U.S. Government Debated Secret Nuclear Deployments in Iceland". National Security Archive. George Washington University. 15 August 2016. Cyrchwyd 10 December 2016.
  2. Kochis, Daniel; Slattery, Brian (21 Jun 2016). "Iceland: Outsized Importance for Transatlantic Security". The Heritage Foundation. Cyrchwyd 9 Jan 2018.
  3. Jeffreys-Jones, Rhodri (1997). Changing Differences: Women and the Shaping of American Foreign Policy, 1917-1994. Rutgers University Press. t. 168. ISBN 978-0813524498.
  4. Pettersen, Trude (10 Feb 2016). "U.S. military returns to Iceland". The Barents Observer. Cyrchwyd 9 Jan 2018.
  5. Snow, Shawn (17 Dec 2017). "US plans $200 million buildup of European air bases flanking Russia". Air Force Times. Cyrchwyd 9 Jan 2018.
  6. Saga og menning Archifwyd 2018-02-22 yn y Peiriant Wayback, Keflavik Airport website.
  7. "Hugmyndir um að reisa nýja flugstöð" (yn Icelandic). ruv. Cyrchwyd 13 February 2013.CS1 maint: unrecognized language (link)
  8. "Metfjöldi farþega á Keflavíkurflugvelli í fyrra – Mikil aukning fjórða árið í röð". Isavia.is. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-01-03. Cyrchwyd 2018-03-30.
  9. "Hugmyndir um nýja flugbraut á Keflavíkurflugvelli" (yn Icelandic). visir. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Mai 2014. Cyrchwyd 13 Chwefror 2013. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)CS1 maint: unrecognized language (link)
  10. "Database – Eurostat". ec.europa.eu. Cyrchwyd 24 May 2017.