Maen Penddu
Maen hir o Oes Newydd y Cerrig neu efallai Oes yr Efydd ydy Maen Penddu, a leolir ar lethrau gogleddol Tal y Fan rhwng Penmaenmawr a Henryd, Sir Conwy; cyfeirnod OS: SH738735. DisgrifiadSaif y maen hir unigol hwn ar y ffin rhwng cymunedau Penmaenmawr a Henryd. Mae ffiniau'r cymunedau modern hyn yr un â ffiniau'r plwyfi eglwysig, sef Dwygyfylchi a Henryd. Roedd yn arfer cyffredin dewis henebion amlwg i nodi ffiniau hen blwyfi. Mae'n gorwedd ar darn o dir gweddol wastad rhwng Cefn Maen Amor a llethrau gogleddol Tal y Fan. Gerllaw ceir dwy heneb gynhanesyddol arall. Mae Cylch cerrig Cefn Maen Amor yn gylch o gerrig bychan iawn, llai na throedfedd o uchder. Yn agos iddo ceir carnedd gron. Gweler hefydCyfeiriadauInformation related to Maen Penddu |