Maen hir cynhanesyddol yw Maen Llia sy'n sefyll ar rosdir agored yng nghymuned Maescar, Brycheiniog, Powys. Yn eironig (o gofio'r enw) dyma un o'r meini hirion mwyaf yng Nghymru.
Mae'n garreg fawr tua 3.7 medr o uchder a 2.8 medr ar draws ond gyda lled o 0.6 medr yn unig. Mae'n bosibl ei bod yno i dywys teithwyr rhwng y ddau gwm (h.y. carreg ddangos (Saesneg: Finger Stone). Mae'n debygol fod y maen wedi cael ei godi ar y safle rhywbryd yn yr ail fileniwm Cyn Crist.[1]
Darganfuwyd arysgrif mewn llythrennau Lladin ac Ogam ar y maen yn y 1940au.[1] Maent yn aneglur heddiw ond fe'i darllenwyd yn y 1940au fel:
ROVEVI / S...SOVI
a
VASSO(G?)
Mae un o ffyrdd Rhufeinig Cymru yn mynd heibio tua 300 m o'r safle, ac mae'n bosibl fod yr arysgrif honno yn cofnodi enw personol ac yn awgrymu fod y ffordd Rufeinig, a gysylltai Aberhonddu a Glyn Nedd, yn cael ei defnyddio'n rheolaidd yn yr Oesoedd Canol Cynnar.[1]