Un o ddramau mwyaf adnabyddus y dramodydd William Shakespeare yw Macbeth. Sylfaenodd Shakespeare cynllun y ddrama ar hanes Macbeth, brenin yr Alban gan Raphael Holinshed a'r athronydd Albanaidd Hector Boece, er nad yw'r digwyddiadau yn y ddrama yn cyfateb i'r hyn a wyddir am y Macbeth hanesyddol.
Ar ddechrau'r ddrama mae Macbeth yn uchel yn ffafr Duncan, Brenin yr Alban, wedi iddo orchfygu gwrthryfel yn ei erbyn. Wedi i Macbeth gyfarfod tair gwrach sy'n proffwydo y daw yn frenin, mae'n cael ei berswadio i lofruddio Duncan tra mae'r brenin yn aros gydag ef ac i gipio'r orsedd.
Ym myd actorion mae cyfeirio yn uniongyrchol at y ddrama wrth ei henw yn rhywbeth i'w osgoi am ei bod yn gysylltiedig ag ofergoel am aflwc: "y ddrama honno" yw'r term arferol.
Cyfieithiad i'r Gymraeg
Cyhoeddwyd y cyfieithiad Cymraeg cyntaf, cyfieithiad mydryddol gan Thomas Gwynn Jones, yn 1942. Ymddangosodd addasiad Cymraeg Gwyn Thomas ar fideo yn 1992.