Cofrestrydd Cwmnïau Cymru a Lloegr a phennaeth Tŷ'r Cwmnïau ers 2017 yw Louise Charlotte Smyth, CBE.[1] Cafodd ei addysg ym Mhrifysgol Leeds. Yn 2025 derbyniodd CBE gan Frenin lloegr 'am wasanaeth i Fywyd Cyhoeddus a'r Economi.'
Mae'n dod o Gasnewydd.[2]
Cyn ymuno â Thŷ'r Cwmnïau bu Louise mewn nifer o uwch swyddi yn y Swyddfa Eiddo Deallusol (IPO), gan gynnwys Cyfarwyddwr Technoleg Gwybodaeth, Cyfarwyddwr Pobl, Lleoedd a Gwasanaethau a Phrif Swyddog Gweithredu.[3]
Cyfeiriadau