Llyn mewn crater a ffurfiwyd yn ystod ffrwydrad folcanig yw llyn crater folcanig. Yn aml mae llynnoedd o'r fath yn ffurfio mewn callorau, sef pantiau mawr sy'n cael eu creu ar ôl i losgfynyddoedd cwympo'n ôl i'r ddaear ar ôl iddynt fwrw magma allan i'r awyr a'r wyneb. Gall y dŵr ynddynt ddod o ddyodiad, neu ddŵr daear neu iâ wedi toddi.
Enghraifft adnabyddus o lyn crater yw Llyn Crater,[1] sy'n llyn callor yn Oregon, Unol Daleithiau America, ac yn ganolbwynt Parc Genedlaethol Llyn Crater.
Oriel
-
Llyn Cuicocha, Ecwador
-
Llyn Crater, Unol Daleithiau America
-
Kerið, Gwlad yr Iâ
-
Llyn Yeak Laom, Cambodia
-
Llyn ar Mynydd Rinjani, Indonesia
-
Llyn Pinatubo, y Philipinau
-
Llyn Bambili, Camerŵn
Cyfeiriadau