Llyn bychan yn Eryri yw Llyn Terfyn. Fe'i lleolir rhwng Tan-y-grisiau a Nant Gwynant ym mynyddoedd y Moelwynion, Gwynedd.
Saif y llyn hwn dros 600 meter i fyny yng nghanol y Moelwynion, rhwng Moel Druman i'r dwyrain a'r Ysgafell Wen i'r gogledd-orllewin. Llifa ffrwd allan o'r llyn i gyfeiriad y de. Mae ffrwd arall o lyn bychan dienw cyfagos yn ymuno â hi i lifo am tua tri-chwarter milltir i Llyn Cwm Corsiog.
Enwir y llyn yn 'Llyn Terfyn' am ei fod yn dynodi'r hen ffin sirol rhwng Sir Gaernarfon a Sir Feirionnydd.