Yn wreiddiol roedd Llyn Stwlan yn llyn naturiol bychan. Adeiladwyd yr argae i ffurfio'r llyn presennol fel rhan o gynllun cynhyrchu trydan dŵr Tanygrisiau yn niwedd y 1950au, a agorwyd yn swyddogol yn 1961. Mae gan y llyn yn awr arwynebedd o 22 acer. Mae'r orsaf bŵer yma yn defnyddio trydan ar adegau pan nad oes cymaint o alw amdano i bwmpio dŵr o Lyn Tanygrisiau islaw i fyny i Lyn Stwlan. Pan fo mwy o alw am drydan, mae'r dŵr yn cael ei ollwng yn ôl i lawr i gynhyrchu trydan. Oherwydd hyn mae lefel y llyn yn amrywio yn fawr.
Mae Afon Stwlan yn llifo allan o'r llyn ac yn llifo i mewn i Lyn Tanygrisiau.
Llyfryddiaeth
Geraint Roberts, The Lakes of Eryri (Llanrwst: Gwasg Carreg Gwalch, 1995)