Llyn yn ne Sweden yw Llyn Mälaren. Gydag arwynebedd o 1,140 km², ef yw llyn trydydd-fwyaf Sweden ar ôl Llyn Vänern a Llyn Vättern, ac mae tua 63 medr yn y mnan dyfnaf. Saif i'r gorllewin o Stockholm.
Ceir nifer o ynysoedd ynddo; y ddwy fwyaf yw Selaön (91 km²) a Svartsjölandet (79 km²). Dynodwyd Birka, sefydliad o oes y Llychlynnwyr ar ynys Björkö, ynghyd â Hovgården ar ynys Adelsö yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO yn 1993. Mae Palas Drottningholm ar ynys Lovön hefyd yn Safle Treftadaeth y Byd.