Llyn Maracaibo yn Feneswela yw'r unig "lyn" yn Ne America sy'n fwy na Llyn Titicaca, ond nid oes consensws fod Maracaibo yn wir llyn, gan fod y dŵr yn rhannol hallt oherwydd cysylltiad i Gwlff Feneswela ger y môr Caribî.
Fe'i lleolir yng ngogledd-orllewin y wlad. Ei arwynebedd yw tua 13,000 km² (5,000 milltir sgwar). Mae llawer o ffynhonnau olew ar lan y llyn, sy'n cynhyrchu tua 70% o olew y wlad ac felly'n un o'r meysydd olew pwysicaf yn yr Amerig. Mae sianel cul artiffisiail yn cysylltu'r llyn â'r môr ers 1956.