Llyn yn Y Berwyn, Powys, gogledd-ddwyrain Cymru, yw Llyn Lluncaws. Mae'n gorwedd wrth droed Cadair Berwyn a'i gymydog Moel Sych, tua 670m i fyny ac felly'n un o'r llynnoedd uchaf yng Nghymru.
Rhed ffrwd Nant-y-llyn allan o'r llyn gan ddisgyn i'r de i ymuno ag Afon Rhaeadr.