Llyn Erie

Llyn Erie
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolY Llynnoedd Mawr, y ffin rhwng Canada ac UDA Edit this on Wikidata
SirOntario, Michigan, Pennsylvania, Efrog Newydd, Lake County Edit this on Wikidata
GwladCanada, Unol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Arwynebedd25,744 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr173 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau42.25°N 80.9997°W Edit this on Wikidata
Dalgylch58,800 cilometr sgwâr Edit this on Wikidata
Hyd388 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Erie (Saesneg: Lake Erie). Ef yw'r pedwerydd o'r pum Llyn Mawr o ran arwynebedd, a'r basaf o'r pump. Enwyd y llyn ar ôl y bobl frodorol, llwyth yr Erie. Saif Llyn Erie ar y ffin rhwng Canada a'r Unol Daleithiau. Yn y gogledd, mae'n ffinio ar Ontario, Canada, yn y de ar daleithiau Ohio, Pennsylvania ac Efrog Newydd yn yr Unol Daleithiau, ac yn y gorllewin ar dalaith Michigan yn yr Unol Daleithiau. Mae ei arwynebedd yn 25,745 km2 a'i hyd yn 388 km.

Disgrifiad

Llifa Afon Detroit i'r llyn o Lyn Huron a Llyn St. Clair, ac mae Afon Niagara yn llifo allan o'r llyn i Lyn Ontario. Ceir nifer o ynysoedd yn y llyn. Ar yr ochr ogleddol, penrhyn Parc Cenedlaethol Point Pelee yw'r rhan fwyaf deheuol o dir mawr Canada. Saif dinasoedd a threfi Buffalo, Efrog Newydd; Erie, Pennsylvania; Toledo, Ohio; Port Stanley, Ontario; Monroe, Michigan; a Cleveland, Ohio ar lan Llyn Erie.

Lleoliad Llyn Erie
Llyn Erie o fryn ger Leamington, Ontario

Cyfeiriadau

Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.