Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Du. Fe'i lleolir yng nghymuned Dolbenmaen, yn ardal Eifionydd.
Saif y llyn bychan hwn 695 troedfedd[1] i fyny, tua dwy filltir i'r gogledd o bentref Tremadog, i gyfeiriad Llyn Cwmystradllyn. Saif mewn cwm ar lethrau gorllewinol Mynydd Gorllwyn, sef ysgwydd deheuol Moel-ddu.[2]
Llifa Afon Ddu o ben gorllewinol y llyn i lifo i Afon Cwmystradllyn yn is i lawr, ger Clenennau.[2]
Mae glan y llyn yn gorsiog iawn. Ceir brithyll ynddo.[1]