Llyn yng ngogledd yr Eidal yw Llyn Como (Eidaleg: Lago di Como neu Lario). Gydag arwynebedd o 146 km², ef yw ail lyn yr Eidal o ran maint. Mae'n 410 medr o ddyfnder yn ei ran ddyfnaf, ac felly dyma'r llyn dyfnaf yr Eidal.
Saif y llyn ger Llyn Maggiore a Llyn Lugano, mewn ardal fynyddig, yn agos i'r ffin â'r Swistir, 198 medr uwch lefel y môr. Yr uchaf o'r mynyddoedd o'i gylch yw Monte Legnone (2609 m).
Yr afon fwyaf sy'n llifo i'r llyn yw afon Adda, sy'n dod i mewn iddo yn y gogledd, ger Colico ac yn llifo allan yn y de-ddwyrain ger Lecco.