Llyn yng Ngwynedd yw Llyn Caer Euni (hefyd: Llyn Caer-Euni). Saif ar fryn Cefn Caer Euni tua hanner ffordd rhwng Llandderfel (i'r de) a Dinmael i'r gogledd yng ngogledd-ddwyrain ardal Meirionnydd. Uchder: tua 330 medr.
Llyn bychan o siap crwn yw Llyn Caer Euni, mewn ardal o rosdir agored, coedwigoedd a chaeau bychain. Dyma brif darddle Afon Merddwr, un o ledneintiau Afon Ceirw yn Sir Conwy tua 5 milltir i'r gogledd.