Cronfa ddŵr yn Costa Rica yw Llyn Cachí (Sbaeneg: Lago de Cachí). Ffurfiwyd y llyn pan godwyd Argae Cachí yn y 1970au. Mae'n gorwedd ym Mharc Cenedlaethol Tapantí, i'r de-ddwyrain o Cartago yn Nhalaith Cartago. Y brif dref ar ei lan yw Cachí, sy'n rhoi ei enw i'r llyn.
Ceir gorsaf trydan dŵr ar y llyn sy'n defnyddio llif Afon Reventazon i greu trydan; rheolir y brosiect gan yr Instituto Costarricense de Electricidad.