Llyn Bodgylched

Llyn Bodgylched
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau53.27°N 4.12°W Edit this on Wikidata
Map
Statws treftadaethSafle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig Edit this on Wikidata
Manylion

Mae Llyn Bodgylched yn llyn yn ne-ddwyrain Ynys Môn, ychydig dros 1 km i'r gogledd-orllewin o Fiwmares. Nid oes afon o unrhyw faint yn llifo ohono. Mae lefel y llyn yn cael ei gadw'n uchel gan argae bychan ar yr ochr ddeheuol.

Rhestrir y llyn fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, ar sail y planhigion sy'n tyfu yno ac ar sail yr adat sy'n nythu neu'n gaeafu yno. Saif y llyn ar dir preifat, ond gellir cael golwg arno o'r llwybr cyhoeddus sy'n arwain o'r Elusendai yn SH589764 heibio ochr ddwyreiniol y llyn.

Eginyn erthygl sydd uchod am Ynys Môn. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato