Llyfr Coch Talgarth

Llyfr Coch Talgarth
Enghraifft o:llawysgrif Edit this on Wikidata
Deunyddfelwm Edit this on Wikidata
IaithCymraeg Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1400 Edit this on Wikidata
PerchennogLlyfrgell Genedlaethol Cymru Edit this on Wikidata
Prif bwncCristnogaeth Edit this on Wikidata
Yn cynnwysEnglynion y Clywaid Edit this on Wikidata
Statws hawlfraintparth cyhoeddus, parth cyhoeddus Edit this on Wikidata

Ysgrifennwyd Llyfr Coch Talgarth tua'r flwyddyn 1400. Mae'n cynnwys casgliad o destunau rhyddiaith a barddoniaeth grefyddol Cymraeg Canol a gopîwyd gan ysgrifenwyr Llyfr Coch Hergest.[1]

Mae'n bosibl y bu Llyfr Coch Talgarth yn eiddo Hopcyn ap Tomas (fl. tua 1337 - tua 1408) o Ynysdawe. Mewn cerdd gan Dafydd y Coed dywed y bardd iddo weld casgliad llawysgrifau Hopcyn ap Tomas ac yn eu plith roedd copi o'r Elucidarium; gwyddys mai ysgrifenwyr Llyfr Coch Hergest, a noddwyd gan Hopcyn, a ysgrifennodd y testun o'r Elucidarium sydd yn Llyfr Coch Talgarth, felly mae'n bosibl mai Llyfr Coch Talgarth a welodd y bardd ym mhlasdy ei noddwr. Gwelwyd y llawysgrif gan y bardd Ieuan Llwyd ab y Gargam yn nes ymlaen hefyd.[2]

Bu'r llawysgrif ar gadw yn Nhalgarth, Brycheiniog am ganrifoedd wedi'i rhwymo mewn cloriau lledr coch a dyna sut y cafodd y llyfr ei enw. Daeth yn eiddo y casglwr llawysgrifau enwog John Williams ac fe'i trosglwyddwyd ganddo, gyda gweddill Llawysgrifau Llansteffan, i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn 1909. Diogelir Llyfr Coch Talgarth heddiw yn Adran Llawysgrifau Llyfrgell Genedlaethol Cymru lle mae'n cael ei hadnabod fel Llawysgrif Llanstephan 27.

Mae'r testunau rhyddiaith a geir yn y Llyfr Coch yn cynnwys yr Elucidarium a chopi o Y Gysegrlan Fuchedd. Ymhlith y cerddi ceir Mab Mair, rhan o Cyssul Addaon ac Englynion y Clywaid.

Cyfeiriadau

  1. Clifford Charles-Evans, 'The scribes of the Red Book of Hergest', Cylchgrawn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, 21 (1979-80), 245-56.
  2. J. E. Caerwyn Williams', 'Rhyddiaith Grefyddol Cymraeg Canol (I)', Y Traddodiad Rhyddiaith yn yr Oesau Canol, gol. Geraint Bowen (Gwasg Gomer, 1974), tud. 339.

Gweler hefyd