Roedd Llwyd Ap Iwan yn fab i Michael D. Jones, un o arloeswyr y syniad o sefydlu'r Wladfa. Daeth i Batagonia yn 1886 fel peiriannydd ar Reilffordd Canol Chubut, oedd yn cael ei hadeiladu i gysylltu'r Wladfa a Puerto Madryn.
Rhwng 1893–1894, rhwng 1894–1895 ac ym 1897, aeth ar deithiau i chwilio rhannau o'r wlad lle nad oedd unrhyw Ewropeaid wedi bod o'r blaen, gan ddefnyddio arweinwyr o blith y Tehuelche.
Tua dechrau'r 20g symudodd Llwyd ap Iwan a'i deulu i Gwm Hyfryd (a enwyd yn ddiweddarach yn Colonia 16 de octubre). Roedd yn gyfrifol am gangen Rhyd y Pysgod (Arroyo Pescado) o'r Compañía Mercantil del Chubut, tua 30 km o Esquel. Ar 29 Rhagfyr1909, saethwyd Llwyd ap Iwan yn farw wrth i ddau fandit Americanaidd, Wilson ac Evans, geisio dwyn arian oddi yno.
Cred rhai awduron mai Butch Cassidy a'r Sundance Kid oedd y ddau yma, ond ymddengys fod y ddau yma eisoes wedi eu lladd ym Molifia cyn dyddiad y llofruddiaeth.