Nofel graffig ar gyfer plant a'r arddegau gan Hergé (teitl gwreiddiol Ffrangeg: Objectif Lune) wedi'i haddasu i'r Gymraeg gan Dafydd Jones yw Llwybr i'r Lleuad.
Dalen a gyhoeddodd y gyfrol a hynny yn 2010. Yn 2013 roedd y gyfrol mewn print.[1]
Disgrifiad byr
Mae Tintin a'i gyfeillion yn ymuno â'r Athro Ephraim R Efflwfia yng ngwlad Syldafia. Yno mae'r Athro yn paratoi roced i deithio i'r Lleuad, ond mae grymoedd tywyll yn y cysgodion yn ceisio rheoli'r roced.