Llwybr Llanberis

Llwybr Llanberis
Mathllwybr troed Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirGwynedd Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Maen yn nodi cyffordd rhwng llwybr Llanberis a llwybr y Mwynwyr
Yn edrych i lawr at Gaffi Hanner Ffordd a Llanberis
Golygfa o'r llwybr a rheilffordd

Mae Llwybr Llanberis yn un o’r llwybrau i gopa’r Wyddfa. Mae'r llwybr yma, sy'n cychwyn ger Gwesty'r Victoria yn Llanberis, yn rhedeg ochr yn ochr â thrac y trên bach y rhan fwyaf o'r ffordd. Dyma'r llwybr hiraf, ond gan nad yw mor serth a'r gweddill, mae'n un o'r llwybrau hawddaf. Gall fod yn beryglus pan fo rhew ac eira, pan mae'n eithriadol o bwysig aros ar y llwybr ei hun uwchben gorsaf Clogwyn yn hytrach na dilyn y rheilffordd. Dyma'r unig lwybr lle gellir cael rhywbeth i'w fwyta neu yfed ar y ffordd, gan fod Caffi Hanner ffordd tua hanner y ffordd i fyny[1]. Mae caffi arall, Pen y Ceunant Isaf, agosach i waelod y llwybr.[2] Defnyddir Llwybr Llanberis ar gyfer Ras yr Wyddfa, Ras tua deg milltir sy’n mynd i fyny ac y lawr y mynydd. Cynhelir y ras ym mis Gorffennaf.

Cyfeiriadau