Llwybr Glyn Dŵr

Llwybr Glyn Dŵr
Enghraifft o:hiking trail, Llwybr Troed Cenedlaethol Edit this on Wikidata
Map
Gwladwriaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
RhanbarthPowys Edit this on Wikidata
Hyd135 milltir Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.nationaltrail.co.uk/en_GB/trails/glyndwrs-way/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Llwybr Glyn Dŵr ger Llyn Clywedog.

Llwybr cerdded ym Mhowys yw Llwybr Glyn Dŵr (neu'n gywir: Llwybr Glyn Dŵr). Fe'i enwir ar ôl y tywysog Owain Glyn Dŵr ac mae'n dilyn llwybr sy'n ymweld â llefydd a gysylltir a Glyn Dŵr a hanes ei wrthryfel. Gyda Llwybr Arfordirol Ynys Môn a Llwybr Arfordir Penfro, mae'n un o dri Llwybr Cenedlaethol yng Nghymru.

Mae'r llwybr yn cychwyn yn Nhref-y-clawdd (Knighton), ar y ffin â Lloegr, lle mae'n cysylltu â Llwybr Clawdd Offa. Yna mae'n rhedeg ar gylch tro pedol trwy ganolbarth Cymru gan fynd trwy nifer o drefi bach a phentrefi a safleodd hanesyddol fel Abaty Cwm Hir. Ar ôl croesi Pumlumon ac ymweld â safle Brwydr Hyddgen mae'n cyrraedd Machynlleth ar Afon Dyfi ac yna'n gychwyn yn ôl i'r dwyrain i orffen yn Y Trallwng.


Eginyn erthygl sydd uchod am Bowys. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.