Sonata adnabyddus i'r piano gan Ludwig van Beethoven yn llonnod C leiaf, yw Sonata Rhif 14 i'r Piano, sy'n cael ei galw fel arfer yn Lloergan. Ysgrifennodd Beethoven hi ym 1801 a'i chyflwyno ym 1802 i un o'i ddisgyblion, yr Iarlles Giulietta Guicciardi. Mae'r enw poblogaidd Lloergan wedi'i seilio ar sylw a wnaed gan feirniad yn ddiweddarach, ar ôl marwolaeth Beethoven.[1]
Mae Lloergan yn un o gyfansoddiadau mwyaf poblogaidd Beethoven ar gyfer y piano, ac roedd yn ffefryn poblogaidd hyd yn oed yn ystod ei fywyd. Cyfansoddodd Sonata Rhif 14 yn ei dridegau cynnar ar ôl gorffen darn o waith comisiwn; nid oes tystiolaeth mai cael ei gomisiynu i ysgrifennu'r darn a wnaeth.
Mae tri symudiad i'r sonata:
Adagio sostenuto
Allegretto
Presto agitato
Dechrau'r Adagio sostenuto yw rhan enwoca'r Sonata, sydd wedi'i ddefnyddio'n helaeth ym myd hysbysebion a ffilmiau: