Yn y Gymraeg, gall lliw fod yn wrywaidd neu'n fenywaidd, yn ddibynnol ar yr enw e.e. buwch wen, tarw gwyn; car glas, carreg las. Ceir hefyd ffurf luosog, a ddaw ar ôl enw lluosog - er bod yr arferiad hwn yn prysur ddiflannu (2015) e.e. dant gwyn, dannedd gwynion; pesel felen, pensiliau melynion; dyn du, dynion duon.