Llinell Oder-Neisse (Pwyleg: Granica na Odrze i Nysie Łużyckiej, Almaeneg: Oder-Neiße-Grenze) yw'r enw a ddefnyddir ar gyfer y ffin a osodwyd rhwng yr Almaen a Gwlad Pwyl ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd.
Daearyddiaeth
Ffurfir y rhan fwyaf o'r ffin gan afon Neisse yn y rhan ddeheuol, ac yna gan afon Oder wedi i afon Neisse lifo i mewn iddi. Mae'r ffin yn cyrraedd y Môr Baltig ychydig i'r gorllewin o borthladdoedd Szczecin (Almaeneg: Stettin) a Świnoujście (Swinemünde). Rhoddwyd y cyfan o diriogaethau Gweriniaeth Weimar oedd i'r dwyrain o'r llinell yma, 23.8% o'r cyfanswm, i wlad Pwyl neu'r Undeb Sofietaidd. Gorfodwyd y rhan fwyaf o'r trigolion Almaenig yn yr ardaloedd hyn i adael. Aeth y cyfan o Ddinas Rydd Danzig, bu'n gymaint o ffocws i anniddigrwydd yr Almaenwyr cyn y Rhyfel, i'r weriniaeth Bwylaidd ar ei newydd wedd.
Gwleidyddiaeth
Codwyd y ffin newydd yma rhwng yr Almaen a Gwlad Pwyl gan Stalin yng Cynhadledd Tehran ym mis Rhagfyr 1943. Cadarnhawyd y penderfyniad yng Nghynhadledd Potsdam yn haf 1945 yn fuan wedi diwedd y Rhyfel yn Ewrop.