Llenyddiaeth dihirodEnghraifft o: | dosbarth llenyddol |
---|
Genre lenyddol sy'n adrodd straeon o fyd lladron a throseddwyr eraill yw llenyddiaeth dihirod oedd yn boblogaidd yn Lloegr yr 16g a'r 17g. Roedd y straeon gan amlaf ar ffurf gyffesol ac yn llawn disgrifiadau byw. Mae llenyddiaeth dihirod yn ffynhonnell bwysig wrth ddeall bywyd pob dydd y werin a'i hiaith, ac iaith lladron a chardotwyr. Mae'r genre hon yn perthyn i straeon Robin Hwd a'r llyfr ffraethebion, yn ogystal ag enghreifftiau cynnar o ffuglen yn y llais cyntaf a'r hunangofiant.[1]
Ymhlith prif awduron y fath straeon oedd Thomas Harman, Robert Copland, Robert Greene a Thomas Dekker.
Cyfeiriadau
- ↑ Birch, Dinah (gol.) The Oxford Companion to English Literature (Rhydychen, Gwasg Prifysgol Rhydychen, 2009), t. 853.
Mae'r erthygl hon yn cynnwys term neu dermau sydd efallai wedi eu bathu'n newydd sbon: llenyddiaeth dihirod o'r Saesneg "rogue literature". Gallwch helpu trwy safoni'r termau.
|