Cyfnod trawiadol a welai'r hen ffurfiolaeth yn trawsnewid i'r oes Ramantaidd yn llên Sweden. Dangoswyd ysbryd farddonol fentrus gan Frans Michael Franzén (1772–1847) a Johan Olof Wallin (1779–1839). Adnabyddir Wallin, Archesgob Uppsala, am ei emynau, am olygu llyfr salmau Eglwys Sweden, ac am ei awdl i George Washington, arlywydd cyntaf yr Unol Daleithiau. Wedi'r chwyldro pendefigaidd a ddymchwelodd Gustav IV Adolf ym 1809, pallodd allu Academi Sweden i benderfynu ar chwaeth y cyhoedd, ac yn fuan byddai llenorion Rhamantaidd yr Almaen yn boblogaidd iawn. Dynwaredwyd yr Almaenwyr yn frwd, yn enwedig elfennau damcaniaethol a chyfriniol Friedrich Schelling a Novalis, gan y garfan a oedd yn gysylltiedig a'r cylchgrawn Phosphoros.[1] Pennaeth y Phosphoryddion, a sefydlydd cylch llenyddol y Gynghrair Aurora (Aurora-förbundet), oedd Per Daniel Amadeus Atterbom (1790–1855), sydd yn nodedig am weledigaethau arallfydol a throsgynnol yn ei waith, megis ei gylch o delynegion Blommorna a'r ddrama Lycksalighetens ö (1823). Ymhlith y Phosphoryddion eraill oedd y bardd natur Julia Nyberg (Euphrosyne; 1784–1854), y dychanwr a pholemegydd Karl Fredrik Dahlgren (1791–1844), a'r bardd a dramodydd Erik Johan Stagnelius (1793–1823) Gwrthwynebwyd y tueddiadau hyn gan garfan arall yr oes Ramantaidd yn Sweden, y Gothyddion, a fwriadasant atgyfnerthu delfrydau gwladol ac adfywio'r hen sagâu a baledi rhamantus yr Oesoedd Canol yn unol â chenedlaetholdeb Rhamantaidd. Hoelion wyth Gothigiaeth oedd y bardd ac hanesydd Erik Gustaf Geijer (1783–1847) ac Esaias Tegnér (1782–1846).[2] Cyfieithodd Tegnér Saga Frithiof i'r Swedeg, gan ennill iddo'i hun enw fel awdur yr arwrgerdd genedlaethol a thad barddoniaeth fodern Sweden.
Cyfeiriadau