Rhaglen sgets a ddechreuodd ar y radio yw Little Britain ("Prydain Bach"). Mae'n serennu David Walliams a Matt Lucas, ysgrifenwyr y sioe hefyd. Yn sgîl eu llwyddiant ar BBC Radio 4, fe'i trosglwyddwyd i'r teledu yn 2003. Wedi poblogrwydd ar y sianel ddigidol BBC Choice, cafodd y rhaglen ei hailddarlledu ar BBC Two. Denodd gynulleidfa sylweddol ac mae'r cymeriadau megis Daffyd, yr unig ddyn hoyw yn y pentref, Vicky Pollard ac yn y blaen wedi bod yn lwyddiant ysgubol.