Actores o Loegr ydy Linda Henry (ganed 24 Awst 1959). Mae'n fwyaf adnabyddus am chwarae rhan Yvonne Atkins yng nghyfres ddrama ITV Bad Girls ac fel Shirley Carter yn opera sebon y BBC EastEnders.