Bardd, nofelydd, canwr a newyddiadurwr o Gymru oedd Lewis William Lewis (31 Mawrth1831 – 23 Mawrth1901), a oedd yn adnabyddus wrth ei enw barddolLlew Llwyfo (neu "Y Llew" ar lafar).
Bywgraffiad
Ganed ef ym mhentref Penysarn, Llanwenllwyfo, ger Amlwch, Ynys Môn. Bu'n gweithio yng ngwaith copr Mynydd Parys a gyfnod, yna bu'n brentis brethynnwr ym Mangor cyn cadw siop ei hun ym Mhensarn ac wedyn ysgol yn Llanallgo. Bu'n gweithio ar staff nifer o bapurau newydd Cymraeg mewn gwahanol leoedd, gan gynnwys cyfnod fel golygydd Y Glorian yng Nghasnewydd. Bu yn yr Unol Daleithiau o 1868 hyd 1874.[1]