Lewis Thompson Preston

Lewis Thompson Preston
Ganwyd5 Awst 1926 Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
Bu farw4 Mai 1995 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethbanciwr, gwleidydd, chwaraewr hoci iâ Edit this on Wikidata
SwyddLlywydd Banc y Byd Edit this on Wikidata
PriodPatsy Pulitzer Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Bancwr o'r Unol Daleithiau oedd Lewis Thompson Preston (5 Awst 19264 Mai 1995) oedd yn Llywydd Banc y Byd o 1991 hyd 1995.[1] Gweithiodd Preston i J.P. Morgan o 1968 hyd 1991, ac roedd yn is-lywydd ac yn hwyrach llywydd, cadeirydd a phrif weithredwr y banc hwnnw.[2] Cafodd ei benodi i arwain Banc y Byd wedi diwedd y Rhyfel Oer ac yn ystod ei lywyddiaeth ymaelododd cyn-weriniaethau'r Undeb Sofietaidd â'r Banc a cheisiodd Preston i ddiwygio biwrocratiaeth'r sefydliad ac ehangu ei rôl wrth ailstrwythuro'r sector cyhoeddus mewn gwledydd.[3]

Cyfeiriadau

  1. (Saesneg) Lewis Thompson Preston: 8th President of the World Bank Group, 1991 - 1995. Banc y Byd. Adalwyd ar 4 Mai 2013.
  2. (Saesneg) Deane, Marjorie (2 Mehefin 1995). Obituary: Lew Preston. The Independent. Adalwyd ar 4 Mai 2013.
  3. (Saesneg) Binder, David (6 Mai 1995). Lewis T. Preston, 68, Dies; Led World Bank Into 90's. The New York Times. Adalwyd ar 4 Mai 2013.
Baner Unol Daleithiau AmericaEicon person Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.