Lewis Haslam

Lewis Haslam
Ganwyd25 Ebrill 1856 Edit this on Wikidata
Bu farw12 Medi 1922 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • University College School Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, person busnes, dyfeisiwr Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Plaid WleidyddolPlaid Ryddfrydol Edit this on Wikidata

Roedd Lewis Haslam, (25 Ebrill 1856 - 12 Medi 1922) yn fasnachwr cotwm o Swydd Gaerhirfryn a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Rhyddfrydol Bwrdeistrefi Sir Fynwy o 1906 hyd ddiddymu'r sedd ym 1918 ac wedyn yn Aelod Seneddol Rhyddfrydol Casnewydd o 1918 hyd ei farwolaeth ym 1922[1]

Bywyd Personol

Ganwyd Haslam yn Bolton, Swydd Caerhirfryn yn fab i John Haslam, masnachwr cotwm a Jane née Cook ei wraig.[2]

Cafodd ei addysgu yn ysgol Castle Howard yng Nghaerhirfryn ac Ysgol a Choleg Prifysgol Llundain.[3].

Priododd Helen Norma Dixon ym 1893, roedd hi yn ferch i Henry Dixon, llawfeddyg o Walington, Swydd Rydychen. Bu iddynt dwy ferch.

Gyrfa

Hysbyseb Cymreig am ddillad isaf Aertex

Roedd Haslam yn ŵr busnes efo nifer o ddiddordebau, ei brif swydd oedd fel perchennog melinau cotwm yn Swydd Gaerhirfryn. Roedd ymysg Aelodau Seneddol cyfoethocaf ei ddydd. Mae'n cael ei gofio yn bennaf fel un o ddyfeiswyr y tecstil Aertex a chyfarwyddwr cwmni o'r un enw oedd yn creu'r defnydd.[4] Penderfynodd ef a dau ŵr meddygol o'i gydnabod i ddyfeisio Aertex er mwyn gwneud dillad isaf oedd yn caniatáu awyru'r croen.

Gyrfa Wleidyddol

Safodd Haslam ei etholiad cyntaf yn etholaeth Westhoughton, Swydd Caerhirfryn yn etholiad cyffredinol 1892 fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol ond ni fu'n llwyddiannus. Safodd eto dros y Rhyddfrydwyr yn etholaeth Stamford yn Swydd Lincoln, ym 1900, eto heb lwyddiant. Cafodd ei ethol ar ei drydydd ymgais yn etholiad cyffredinol 1906 gan lwyddo cael ei ethol yn Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy. Llwyddodd i gadw ei sedd yn nwy etholiad 1910. Oherwydd cychwyn y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1914 ni fu etholiad arall hyd 1918. Yn etholiad 1918 diddymwyd etholaeth Bwrdeistrefi Sir Fynwy. Safodd Haslam fel yr ymgeisydd Rhyddfrydol yn etholaeth newydd Casnewydd gan lwyddo i'w gipio i'r Blaid Ryddfrydol gan gadw'r sedd hyd ei farwolaeth ym 1922.

Roedd Haslam yn gefnogwr o Ewgeneg a Darwiniaeth Newydd theorïau oedd yn credu bod modd gwella'r genedl trwy fridio dethol; caniatáu i'r iach o gorff a meddwl planta a rhwystro'r gwan rhag planta. Fe dalodd am y gost o sicrhau bod yr ail gyfrol o gofiant Francis Galton gan Karl Pearson yn cael ei gyhoeddi. Galton oedd prif ladmerydd Ewgeneg yn ail hanner yr 19 ganrif, a bathwr y term Saesneg eugenics [5]

Gwasanaethodd fel Ynad Heddwch dros Swydd Caerhirfryn.

Marwolaeth

Bu farw Haslam yn Pulborough, Gorllewin Sussex, wedi llawdriniaeth aflwyddiannus i drin anhwylder yn ei stumog [6] a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Sutton, Sussex.

Cyfeiriadau

Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Joseph Lawrence
Aelod Seneddol Bwrdeistrefi Sir Fynwy
19061918
Olynydd:
diddymu'r etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Seneddol Casnewydd
19181922
Olynydd:
Reginald Clarry