Ffotograffydd o Gymro oedd Keith Morris (9 Mawrth 1958 – 5 Hydref 2019). Roedd yn adnabyddus am dynnu lluniau yng Nghymru ac yn enwedig am ddogfennu pobl a llefydd ei dref frodorol, Aberystwyth.[1]
Bywyd cynnar ac addysg
Ganwyd Keith Thomas Morris yn Aberystwyth, yn fab i Mona a John (Jack). Roedd ganddo chwaer a brawd.[2] Aeth i Brifysgol Caerwysg i astudio Daearyddiaeth, Economeg a Cynllunio Trefol ac Ysgol Economeg Llundain. Treuliodd gyfnod yng Nghaliffornia yng nghanol yr 1980au.
Gyrfa
Cychwynnodd ei yrfa ym myd y theatr, fel cynllunydd goleuo. Daeth yn ffotograffydd llawrydd, bron drwy ddamwain, yn yr 1980au cynnar. Bu'n gweithio i ystod eang o gyrff yn y meysydd cerddoriaeth, theatr, teledu, ffilm a newyddiaduraeth. Roedd hefyd yn tynnu lluniau portread a lluniau priodas. Roedd yn gyfrannwr cyson ar radio a theledu yng Nghymru yn sylwebu ar ffotograffiaeth a byd theatr. Daeth yn bresenoldeb cyfarwydd mewn Eisteddfodau, gwyliau a nifer o ddigwyddiadau cyhoeddus yng Nghymru. Roedd yn gyn-gadeirydd Ffotogallery.
Tynnodd y llun ar gyfer clawr cyntaf y cylchgrawn Golwg yn 1988.[3] Bu hefyd yn tynnu lluniau llyfrgell ar gyfer Photo Library Wales a cychwynodd gyfrannu i asiantaeth Alamy yn 2006. Drwy hynny gwerthwyd ei luniau i gyhoeddwyr ar draws y byd. Yn 2014 cyrhaeddodd werthiant o $250k drwy Alamy.[4] Dywedir fod ei archif yn cynnwys dros filiwn o luniau yn ymestyn nôl i 1976.
Roedd ganddo brosiect personol yn tynnu lluniau o bawb gyda'r un enw ag ef yng Nghymru.[5] Yn y 1990au roedd yn gyfrifol am ddatblygu y wefan 'Theatre in Wales', cyfeiriadur i gwmniau ac unigolion ym myd y theatr yng Nghymru, gyda adolygiadau personol o gynyrchiadau theatrig.[6]
Yn 2008, roedd ei luniau o Aberystwyth yn gefndir i lyfr Aber: Ysgrifau am Aberystwyth gyda chwe ysgrif gan rai o drigolion y dre.
Bywyd personol
Heblaw am ei amser yn y coleg a'r amser yng Nghaliffornia, treuliodd y rhan fwyaf o'i fywyd yn Aberystwyth, yn y tŷ oedd yn berchen i'w ddadcu.
Roedd yn briod â Gilly ac roedd ganddynt ddwy ferch.
Marwolaeth
Cyhoeddwyd ar fore 5 Hydref 2019 fod Keith ar goll ers amser cinio 3 Hydref.[7] Erbyn y prynhawn darganfuwyd corff ar draeth Borth, Ynyslas ac fe'i adnabyddwyd yn ffurfiol yn ddiweddarach.[8] Cynhaliwyd angladd preifat iddo ar 17 Hydref lle gyrrwyd ei arch i'r amlosgfa yn eu fan campio VW. Am 4pm cynhaliwyd dathliad o'i fywyd yn Neuadd Fawr, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.[2]
Cyfeiriadau
Dolenni allanol