Bwrdeistref ail fwyaf Gwlad yr Iâ yn ôl poblogaeth yw Kópavogur (IPA:ˈkʰoːupavɔɣʏr̥). Saif i'r de o'r brifddinas, Reykjavík, ac mae'n rhan o Reykjavík Fawr. Ystyr yr enw yw cilfach llo morlo. Mae arfbais y dref yn cynnwys proffil eglwys Kópavogskirkja a llo morlo oddi tano.
Preswyldref yw Kópavogur gan mwyaf ond mae ganddi ardal fasnachol a diwydiant hefyd. Mae adeilad uchaf Gwlad yr Iâ, Tŵr Smáratorg, wedi ei lleoli yng nghanol Kópavogur.[1]
Hanes
Mae'r dref yn bwysig yn hanes y genedl gan mai dyma oedd safle cyfarfod Kópavogur 1662.[2] Dyma oedd y digwyddiad a welodd ymgorffori Gwlad yr Iâ yn llawn i mewn i wladwriaeth Denmarc-Norwy pan wnaeth yr Esgob Brynjólfur Sveinsson a'r cyfreithiwr, Árni Oddsson, arwyddo dogfen ar ran pobl yr Ynys yn cadarnhau rheolaeth monarchiaeth absoliwt Brenhinoedd Denmarc dros y wlad. Roedd hyn yn ystod cyfnod Monopoli Masnach Denmarc 1602 to 1787 a roddodd i Ddenmarc sofraniaeth lwyr dros Wlad yr Iâ.[3]
Hyd at yr 1930au, prin iawn oedd poblogaeth Kópavogur, ond daeth y tir i'w defnyddio ar gyfer tai haf i boblogaeth Reykjavík. Gyda mudo poblo o'r cefn gwlad i Ranbarth y Brifddinas, tyfodd y dref ac ardal pentref wreiddiol Kópavogur.
Mae Kópavogur hefyd yn safle un o chwedloniaeth gyfoes Gwlad yr Iâ am yr huldufólk (corachod);[4] ac mae'n ymddangos yn y ffilm 'Sumarlandið' o'r flwyddyn 2010, lle caiff y garreg Grásteinn ei phortreadu fel tŷ corachod yn Kópavogur.
Chwaraeon
Prif glybiau chwaraeon Kópavogur yw Gerpla,[5] Breiðablik UBK a Handknattleiksfélag Kópavogs (HK). Yn 2010 cipiodd Breiðablik y bencampwriaeth bêl-droed wrth ennill Cynghrair y wlad am y tro cyntaf ac yn 2012 enillodd HK ei pencampwriaeth pêl-law (handball) cyntaf.
Economi
Kópavogur yw canolfan siopa fwyaf Gwlad yr Iâ, sef y Smáralind. Mae campws y maelfa yma yn cynnwys adeilad uchef Gwlad yr Iâ, Tŵr Smáratorg, a'r pumed adeilad talaf a'r adeilad talaf yn wlad. Mae Kópavogur hefyd yn bencadlys i nifer o gwmnïau, gan gynnwys Promens.
Poblogaeth Kópavogur
Blwyddyn
Preswylwyr
Fel canran o Boblogaeth Gwlad yr Iâ
1940
200
0,2%
1950
1.652
1,1%
1960
6.213
3,5%
1970
11.165
5,4%
1980
13.814
6,0%
1990
16.186
6,3%
2000
22.693
8,1%
2010
30.357
9,6%
2011
30.779
9,7%
Fynhonnell: Hagstofa Íslands (Ystadegau Gwlad yr Iâ)[6]
↑Valdimar Tr. Hafstein, 'The Elves' Point of View: Cultural Identity in Contemporary Icelandic Elf-Tradition', Fabula: Zeitschrift für Erzählsforschung/Journal of Folklore Studies/Revue d'Etudes sur le Conte Populaire, 41 (2000), 87-104 (pp. 91-93).
↑"Vorönn - upplýsingar" (yn Icelandic). Gerpla.is. Cyrchwyd 25 February 2014.CS1 maint: unrecognized language (link)