Clerigwr Anglicanaidd a diwinydd o Loegr oedd Joseph Butler (18 Mai 1692 – 16 Mehefin 1752)[1] a fu'n esgob yn Eglwys Loegr ac yn un o'r athronwyr Cristnogol mwyaf a welodd Prydain yn y 18g. Gwasanaethodd yn Esgob Bryste o 1738 i 1750 ac yn Esgob Durham o 1750 i 1752.
Ganed ef yn Wantage, Berkshire, yn Nheyrnas Lloegr. Yr oedd yn feddiannol ar chwaeth gref at wybodaeth, ac ar alluoedd o'r radd uchaf. Pan yn ifanc, penodwyd ef i fywoliaethau eglwysig Houghton a Stanhope, a thra yma, ymroddodd i astudio ei Analogy, ei brif waith llenyddol. Ym 1738 rhoddwyd iddo esgobaeth Bryste, ac wedi hynny, ddeoniaeth St Paul's yn Llundain. Gwrthododd archesgobaeth, ond ym 1750, ymgymerodd ag esgobaeth Durham, yr hon a ddaliodd hyd at Fehefin 1752, pan y bu farw, yng Nghaerfaddon, yn 60 oed.
Mae clod yr esgob duwiol hwn yn gorffwys yn bennaf ar ei orchestwaith, The Analogy of Religion, Natural and Revealed, to the Constitution and Course of Nature. Mae y gyfrol hon yn enwog am ei hamddiffyniad i Gristnogaeth, ac y mae llawer o ddynion dysgedig wedi yfed yn helaeth o'i hysbryd. Ysgrifennodd W. E. Gladstone gyfrol fel atodiad i'r gwaith.
Cyfeiriadau