Gwneuthurwr ffilmiau, newyddiadurwr ac YouTuber o'r Unol Daleithiau yw Johnny Harris (ganwyd 28 Mai1988),[1] sydd wedi'i leoli ar hyn o bryd yn Washington, DC[2] Cynhyrchodd a chynhaliodd Harris y gyfres Borders ar gyfer gwefan newyddion a barn Americanaidd Vox .[3][4][5][6][7][8] Creodd hefyd dri fideo ar gyfer The New York Times.[9][10][11] Lansiodd Harris y cwmni Bright Trip yn 2019, sy'n cynnig cyrsiau teithio fideo.[12] Mae'n adnabyddus am ei hoffter o fapiau. Credir ei fod o dras Gymreig.
Bywyd cynnar ac addysg
Magwyd Harris mewn teulu o Formoniaid, yn byw mewn tref fechan yn Oregon.[13] Graddiodd o Ysgol Uwchradd Ashland, yn Ashland, Oregon.[14] Gwasanaethodd genhadaeth dwy flynedd i Eglwys Iesu Grist o Saint y Dyddiau Diwethaf yn Tijuana, Mecsico, ond ers hynny mae wedi gadael yr eglwys.
Mae gan Harris Faglor yn y Celfyddydau mewn Cysylltiadau a Materion Rhyngwladol o Brifysgol Brigham Young (2013) a Meistr yn y Celfyddydau mewn heddwch rhyngwladol a datrys gwrthdaro o Brifysgol America (2016).
Gyrfa
Borders
Rhwng 2017 a 2019, cynhyrchodd a chynhaliodd Harris Borders, cyfres ffilm fer ddogfennol ar Vox a oedd yn proffilio materion cymdeithasol-wleidyddol mewn gwahanol ranbarthau ffiniol ledled y byd.[15] Cafodd ei enwebu ddwywaith am Wobr Emmy.[16] Cafodd y gyfres ei chanslo yn 2020 oherwydd pandemig COVID-19 ac ystyriaethau cyllidebu.[17]
YouTube
Sefydlwyd sianel YouTube Harris ym mis Mehefin 2011. Ers canslo Borders, mae Harris wedi parhau i gynhyrchu fideos ar faterion rhyngwladol, hanes a daearyddiaeth gyda graffeg weledol greadigol, y mae wedi'u cyhoeddi ar ei sianel ei hun.[18]
Erbyn mis Mai 2023 roedd gan gan Harris 3.92 miliwn o danysgrifwyr YouTube.[21] Mae rhai o'i fideos nodedig yn mynd i'r afael â phynciau fel rhyfeloedd, cysylltiadau tramor, a hanes gwladychu yn yr Unol Daleithiau, y Dwyrain Canol, Gogledd Corea, ac ynysoedd y Môr Tawel.
Llawrydd
Ar 9 Tachwedd 2021 cafodd Harris ei gredydu fel cynhyrchydd fideo ar ddarn barn a gyhoeddwyd i The New York Times, o'r enw "Blue States, You're the Problem".[10] Yn ddiweddarach enillodd Wobr Emmy.[22]
Sefydlodd Harris gwmni teithio Bright Trip (gwefan www.brighttrip.com) sy'n cyfuno teithio gydag addysg.[1] Yn ôl broliant y wefan mae "cwrs Bright Trip yn seiliedig ar sgiliau, gallwch ddysgu pethau fel: iaith newydd, sut i deithio gyda phlant, sut i deithio mewn fan, sut i deithio ar eich pen eich hun, neu hyd yn oed sut i hyfforddi'ch cath i deithio gyda chi. Gyda chwrs Bright Trip yn seiliedig ar leoliad, gallwch ddysgu pethau fel: hanes, bwyd, arferion a diwylliant cyrchfan."[2]
Bywyd personol
Mae Harris yn briod ag Isabel "Izzy" Harris, ac mae ganddo ddau fab, Oliver a Henry.