Bardd o Ynys Môn oedd John Robert Pryse (10 Mehefin 1840 - 13 Tachwedd 1862), a ysgrifennai dan yr enw barddol "Golyddan".[1]
Roedd yn fab i'r llenor a hanesydd Robert John Pryse (Gweirydd ap Rhys) ac yn frawd i'r llenores Catherine Prichard (Buddug). Bu farw'n ifanc yn 22 oed tra'r oedd wrthi'n ymbaratoi at fod yn feddyg, gan adael 40,000 o linellau o farddoniaeth ar ffurf ceisiadau Eisteddfodol anfuddugol gan fwyaf.[2] Roedd ei gyfoeswyr yn ei ystyried yn fardd ifanc addawol ac yn gweld ei farwolaeth yn golled fawr i lenyddiaeth yr oes.[3] Er gwaetha mor ifanc ydoedd, ystyriodd R. M. Jones mai ef oedd un o feirdd gorau'r bedwaredd ganrif am ei arwrgerdd Iesu, yr ystyriai yn gerdd hir orau'r ganrif.[4]
Cyfeiriadau