Ganwyd Jenkins yn Llanidloes yn fab i Edward Jenkins perchennog ffatri gwlanen a Mary (née Mason) ei wraig. Cafodd ei addysgu yn yr Amwythig a gan diwtoriaid preifat.[2]
Gyrfa
Yn 16 mlwydd oed aeth Jenkins i gwmni gyfreithwyr John Owen yn y Drenewydd fel clerc erthyglau am 4 blynedd gan gymhwyso fel cyfreithiwr yn Llundain ym 1842. Sefydlodd cwmni cyfreithiol yn Llanidloes. Ym 1846 fe'i penodwyd yn gofrestrydd llys sirol Aberystwyth. Ar ôl pasio Deddf Methdaliad 1869 fe'i penodwyd trwy ddirprwyaeth i arfer y pwerau barnwrol a gweinyddol mewn methdaliad dros rannau o Sir Aberteifi, Sir Drefaldwyn a Sir Feirionnydd. Ym 1884 fe'i penodwyd yn gofrestrydd ardal yr Uchel Lys Cyfiawnder.[3]
Gwasanaethodd fel clerc i gyngor tref Llanidloes [4] ac fel clerc i lys ynadon Llanidloes.
Bu'n Jenkins yn weithgar wrth sefydlu ysgolion elfennol mewn cysylltiad â Chymdeithas Ysgolion Prydeinig a Thramor. Roedd yn aelod o Bwyllgor Addysg Ganolradd Cymru. Roedd yn Llywodraethwr ac yn aelod o Gyngor Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth.
Wedi sefydlu'r cynghorau sir ym 1888 etholwyd Jenkins yn aelod Rhyddfrydol o Gyngor Sir Drefaldwyn a'i ddewis yn un o henaduriaid y sir wedi'r etholiad. Gwasanaethodd fel is Gadeirydd y cyngor o 1888 i 1894.[5]
Roedd Jenkins yn Gadeirydd y Comisiynwyr Trethi,[6] ac yn Llywydd Cynorthwyol cangen Llanidloes o Gymdeithas y Beibl Prydeinig a Thramor. Bu hefyd yn Gyfarwyddwr ar Gwmni Nwy Llanidloes, ac yn Gadeirydd ei fwrdd am nifer o flynyddoedd.
Gyrfa lenyddol
Ers cychwyn ei yrfa fel cyfreithiwr credai Jenkins fod angen diwygio'r weithdrefn gyfreithiol, a chyfrannodd at y cylchgrawn "Eclectic Review" papurau ar Ddiwygio'r Gyfraith a Llysoedd Lleol. Yn 1845 cyhoeddodd bamffled o'r enw Law Reform.
Trwy ei waith gyda'r Gymdeithas Ysgolion Prydeinig a Thramor daeth Jenkins i'r farn nad oedd modd darparu addysg elfennol i bob plentyn ar sail waith gwirfoddol yn unig. Ym 1848 cyhoeddodd llyfr o'r enw National Education yn dadlau bod angen i'r llywodraeth darparu addysg statudol orfodol. Gwireddwyd ei ddymuniad gyda phasio'r Ddeddf Addysg Elfennol (1870).[7]
Cyhoeddodd lyfrynnau yn ymwneud a'r gyfraith parthed addysg ac addoliad. The Laws Relating to Religious Liberty (1880),[8]The Laws Concerning Religious Worship (1885) a Mortmain and Charity Uses (1885).`
Golygodd ail argraffiad ac ysgrifennodd traethawd i gyflwyno'r system ffiwdal ar gyfer llyfr Ieuan Brydydd Hir Some Specimens of the Poetry of the Antient Welsh Bards, Translated into English, with Notes (1862).[9] Cyhoeddodd ei lyfr o gyfieithiadau o farddoniaeth Gymraeg ei hun ym 1873 The Poetry of Wales
Marwolaeth
Bu farw yn ddibriod yn 74 mlwydd oed a chladdwyd ei weddillion mewn claddgell yn Seion, capel yr Annibynwyr, Llanidloes.[10]