John Herbert Lewis |
---|
|
Ganwyd | 27 Rhagfyr 1858 Mostyn |
---|
Bu farw | 10 Tachwedd 1933 |
---|
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon |
---|
Alma mater | |
---|
Galwedigaeth | gwleidydd |
---|
Swydd | aelod o Gyfrin Gyngor y Deyrnas Unedig, Aelod o 31ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 30ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o'r 29fed Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 28ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 27ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 26ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 25ain Senedd y Deyrnas Unedig |
---|
Plaid Wleidyddol | Plaid Ryddfrydol |
---|
Priod | Ruth Herbert Lewis |
---|
Plant | Kitty Idwal Jones |
---|
Gwobr/au | Marchog Croes Fawr Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig |
---|
Gwleidydd Rhyddfrydol o Gymru oedd Syr John Herbert Lewis (27 Rhagfyr 1858 – 10 Tachwedd 1933).
Bywgraffiad
Ganed ef yng Nghei Mostyn, Sir y Fflint yn unig blentyn Enoch Lewis ac Catherine Roberts. Addysgwyd ef ym Mhrifysgol McGill a Coleg Exeter, Rhydychen. Ef oedd cadeirydd cyntaf Cyngor Sir y Fflint. Bu'n Aelod Seneddol dros etholaeth Bwrdeistrefi Fflint o 1892 hyd 1906, yna dros Sir y Fflint o 1906 hyd 1918. Ef oedd yr Aelod Seneddol cyntaf dros etholaeth newydd Prifysgol Cymru o 1918 hyd 1922. Yn 1894, cymerodd ran yn y "Gwrthryfel Cymreig" pan ymddiswyddodd o'r Chwip Ryddfrydol gyda David Alfred Thomas, David Lloyd George a Frank Edwards.
Roedd yn gefnogwr i'r mudiad Cymru Fydd, ac yn wrthynebydd i Ryfel y Boer yn etholiad 1900. Bu'n Arglwydd y Trysorlys, 1905-1908; Ysgrifennydd Seneddol i'r Bwrdd Llywodraeth Leol, 1909-1915 ac yn Ysgrifennydd Seneddol i'r Bwrdd Addysg, 1915-1922. Roedd yn un o brif gefnogwyr Llyfrgell Genedlaethol Cymru, a daeth yn Is-lwydd y Llyfrgell yn 1909 ac yn Llywydd yn 1926. Yn 1925, tra'n cerdded yn y bryniau uwchben Aberystwyth cyn cyfarfod o gyngor y Llyfrgell, syrthiodd i hen dwll chwarel, a dioddefodd anafiadau a'i gadawodd wedi ei barlysu am weddill ei fywyd.
Roedd yn radicalaidd ei argyhoeddiadau gwleidyddol, ac wedi dod yn ifanc o dan ddylanwad Evan Pan Jones (un o ddisgyblion Michael D. Jones). Roedd yn Gristion o argyhoeddiadau cryf. Yn Fethodist Calfinaidd amlwg, roedd yn perthyn i'r arweinydd Methodist, Thomas Jones o Ddinbych, ac o bosibl i'r awdur C. S. Lewis.
Roedd ei ail wraig, Ruth Herbert Lewis, yn aelod amlwg iawn o Gymdeithas Alawon Gwerin Cymru.
Cyfeiriadau
K. Idwal Jones (gol.), Syr Herbert Lewis 1858-1933 (Gwasg Prifysgol Cymru, 1958)