Botanegydd a ffotograffydd cynnar Cymreig oedd John Dillwyn Llewelyn, ganed John Dillwyn (12 Ionawr 1810 - Awst 1882; ceir hefyd y ffurf John Dillwyn-Llewelyn weithiau).
Ganed ef yn Abertawe, yn fab hynaf Lewis Weston Dillwyn a Mary (cynt Adams née Llywelyn). Etifeddodd blasdy ei daid ar ochr ei fam, John Llewelyn, ym Mhenlle'r-gaer ac Ynysygerwn, a chymerodd y cyfenw ychwanegol Llewelyn. Addysgwyd ef yn breifat ac yn Rhydychen. Brawd iddo oedd Lewis Llewelyn Dillwyn (1814-1892) a daeth yn Aelod Seneddol Abertawe a chwaer iddo oedd ffotograffydd arloesol Mary Dillwyn (1816-1906)
Ffotograffiaeth
Yn Ionawr 1839, yn dilyn cyhoeddiadau am brosesau ffotograffig gan William Henry Fox Talbot, oedd yn berthynas i'w wraig, a Louis Jacques Mandé Daguerre, dechreuodd Dillwyn Llewelyn arbrofi. Y broses gyntaf iddo'i ymarfer oedd daguerreotype ond ni chredir i'r un llun oroesi'r blynyddoedd. Mae rhai o'i luniau o brosesau eraill wedi goroesi, fodd bynnag e.e. ceir sawl llun cliché verre a miloedd o luniau calotype a negyddion "collodion".
Roedd yn un o sylfaenwyr y Gymdeithas Ffotograffig Frenhinol, ac yn aelod amlwg ohoni. Roedd yn ffotograffydd tirluniau nodedig, gan ganolbwyntio ar yr ardal o gwmpas Penlle'r-gaer ac ar arfordir Cymru.
Gweler hefyd
Cyfeiriadau