Ysgolhaig, geiriadurwr, awdur a gweinidog o Gymru oedd Dr John Davies (tua 1567–1644), a adwaenir fel Dr John Davies, Mallwyd, am iddo dreulio'r rhan fwyaf o'i oes yn rheithor Mallwyd yn yr hen Sir Feirionnydd (de Gwynedd).
Bywgraffiad
Fe'i ganed yn Llanferres, yn yr hen Sir Ddinbych (Sir y Fflint heddiw). Roedd yn gyfaill i Esgob William Morgan a chredir mai ef a wnaeth y rhan fwyaf o'r waith o ddiwygio testun cyfieithiad newydd William Morgan o'r Beibl (1620) ar gyfer y wasg. Yn 1621 cyhoeddodd ei waith pwysicaf, sef y gramadeg o'r iaith Gymraeg Antiquae Linguae Britannicae ... Rudimenta. Cyhoeddodd ddau eiriadur, yn cynnwys ei eiriadur Lladin-Cymraeg seiliedig ar waith Thomas Wiliems o Drefriw, y Dictionarum Duplex (1632), a sawl cyfrol arall.
Yn ogystal â'i waith fel awdur ac ysgolhaig, roedd John Davies yn gopïwr llawysgrifau diwyd ac rydym yn ddyledus iddo heddiw am ddiogelu sawl testun Cymraeg Canol. Cyhoeddwyd detholiad o rai o'r cerddi canoloesol a gopïwyd ac a olygwyd gan John Davies ar ôl ei farwolaeth yn y flodeugerdd Flores Poetarum Britannicorum (1710), sy'n cynnwys yn ogystal y casgliad cyntaf mewn print o'r Hen Benillion.
Llyfryddiaeth
Astudiaethau
Cyfeiriadau